Arestio dau yn dilyn ymladd mewn gêm bêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau fod dau berson wedi'u harestio yn dilyn ymladd mewn gêm bêl-droed nos Wener.
Cafodd ymchwiliad ei lansio yn dilyn y ffrwgwd mewn gêm rhwng Dinbych a Bangor 1876 ar frig cynghrair yr Ardal North West.
Dywedodd clwb Dinbych y byddan nhw'n lansio ymchwiliad eu hunain i'r digwyddiad, gyda Bangor hefyd yn nodi eu cefnogaeth.
Ond bellach mae wedi'i gadarnhau fod llanc 14 oed wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni trosedd trefn gyhoeddus a thorri amodau ei fechnïaeth llys.
Cafodd dyn 19 oed o Lanelwy hefyd ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf llafnog a chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant.
Cafodd ei ryddhau o dan ymchwiliad tra bod ymholiadau yn parhau, gyda'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i gynorthwyo'r ymchwiliad.
Mewn datganiad ychwanegodd y llu: "Rydym wedi ymrwymo i ddod â phawb oedd yn ymwneud â'r anhrefn o flaen eu gwell, a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol a'r ddau glwb pêl-droed i'r perwyl hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2023