Pum lle sy'n dweud stori Dewi Sant
- Cyhoeddwyd
Ar Ddydd Gŵyl Dewi, Cymru Fyw sydd wedi dewis pum lle sy'n dweud stori Nawddsant Cymru.
1. Henfynyw, Ceredigion
Mae llawer o'r hyn yr ydym yn ei wybod am Dewi yn dod o waith Rhigyfarch ap Sulien, awdur o'r 11eg ganrif a ysgrifenodd 'Buchedd Dewi'. Gan i waith Rhigyfarch gael ei ysgrifennu dros 500 mlynedd wedi i Dewi farw, mae amheuaeth pa mor ddibynadwy yw'r hanes.
Hefyd, mae hanesion eraill amdano wedi byw ar lafar felly mae straeon am Dewi yn amrywio.
Un stori yw fod Dewi Sant wedi ei eni ym mhlwyf Henfynyw, Ceredigion tua diwedd y bumed ganrif, er fod union ddyddiad ei eni yn anhysbys.
Dywedir ei fod o dras brenhinol. Roedd ei dad yn fab i Ceredig, tywysog Ceredigion, ac roedd ei fam Non yn ferch i bennaeth lleol.
2. Llanddewi-brefi
Mae nifer o chwedlau yn ymwneud â Dewi, ond efallai mai'r enwocaf yw'r bregeth yn Llanddewi-brefi, Ceredigion.
Casglodd torf anferth i wrando ac roedd llawer yn cwyno nad oeddent yn gallu gweld na chlywed beth oedd yn digwydd.
Dywed y chwedl i Dewi osod hances ar y llawr cyn sefyll arni, ac yn sydyn, cododd bryn bach o dan ei draed gan ei godi fel y gallai pawb ei weld.
Mae rhai yn dweud hefyd fod colomen wen wedi glanio ar ei ysgwydd, yn arwydd gan Dduw o'i sancteiddrwydd.
"Gwnewch y pethau bychain..." Rhai o eiriau olaf Dewi cyn iddo farw oedd ei rai enwocaf.
Cofnodwyd ei bregeth olaf yn Llyfr Ancr Llanddewibrefi o'r 14eg Ganrif: "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i."
3. Llanilltud Fawr
Mae'n debyg i Dewi gael ei addysg yn Llanilltud Fawr, ac yn ôl Rhigyfarch, adferodd Dewi olwg ei diwtor Sant Paulinus.
Yn fynach, abad ac esgob, tyfodd Dewi yn un o aelodau mwyaf dylanwadol Eglwys Geltaidd y cyfnod, gan ledu neges Cristnogaeth ymysg llwythau paganaidd Prydain.
4. Capel Non
Mae rhai eraill yn credu i Dewi gael ei eni ynghanol storm o fellt a tharanau lle saif olion Capel Non ger Tyddewi ar arfordir Sir Benfro. Enwyd y capel ar ôl ei fam.
Er nad oes ond ychydig waliau brau'n weddill o Gapel Santes Non, a'r rheini o ddyddiad ansicr, mae'n safle diwylliannol a sanctaidd arwyddocaol o hyd.
Ar y llwybr tuag at y capel, mae ffynnon sanctaidd â phwerau iachau, yn ôl y sôn. Yn ôl Buchedd Dewi, ffrydiodd y ffynnon o'r tir ger y man lle esgorodd Non. Mae Dydd Gŵyl Santes Non ar 2 Mawrth.
5. Tyddewi
Sefydlodd Dewi Sant fynachlog yn Nhyddewi, Sir Benfro yn agos at ble mae'r eglwys gadeiriol i'w gweld heddiw. Glyn Rhosyn oedd yr enw ar ardal Tyddewi cyn dyddiau Dewi Sant.
Daeth yr eglwys gadeiriol, a adeiladwyd yn ei enw, yn un o'r cysegrfannau pwysicaf yn y byd Cristnogol canoloesol.
Ar ôl byw bywyd ysbrydol a syml, bu farw ar Fawrth 1 a'i gladdu yn Nhyddewi. Dyna pam y dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar y dyddiad yma heddiw.
Mae'n debyg i Dewi ddod yn nawddsant i'r Cymry am fod cynifer o eglwysi hynafol Cymru wedi eu cysegru iddo a'i Ŵyl Mabsant yn cael ei dathlu mewn mwy o eglwysi nag unrhyw un o'r seintiau eraill.
Yn y 12fed ganrif, cyhoeddodd y pab bod dwy bererindod i Dyddewi'n cyfateb ag un i Rufain.
Hefyd o ddiddordeb: