Clwb Salsa Bangor yn mynd o nerth i nerth
- Cyhoeddwyd
Wrth gerdded ar hyd stryd Bangor ucha' ar nos Iau, prin fod unrhyw un sy'n pasio'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd y tu fewn i glwb Rascals.
Wrth edrych i mewn drwy'r ffenest mae'n edrych fel unrhyw dafarn gyffredin - pobl yn yfed wrth y bar a rhai yn chwarae pwl.
Ond mewn gwirionedd mae'r adeilad yn llawn dop, gyda 50 o bobl yn dawnsio salsa allan o olwg y stryd.
Yma ar lawr uchaf y clwb yn ystafell 'The Loft' mae Criw Salsa Bangor yn cwrdd pob nos Iau.
'Elfen gymdeithasol'
Un sy'n aelod ers pum mlynedd yw cyn gitarydd y band pync roc, Anhrefn, Sion 'Sebon' Thomas.
"O'n i o hyd yn licio cerddoriaeth Latin, o'n i wedi bod yn gwrando ar Salsa.
"Tua phedair blynedd yn ôl, jest by chance, o'n i'n cerdded y ci ar prom Llanfairfechan, ac roedd 'na griw o Salsa Bangor yno ar nos Sul, efo speakers yng nghefn car a thua pymtheg o bobl jest yn dawnsio ar y prom.
"Nathon ni stopio i watcho, a daeth 'na bobl draw am sgwrs, chat, give it a go nathon ni rhoi go arni a dyne oedd hi wedyn," meddai.
Pob nos Iau mae cyfle i rai llai profiadol ymuno mewn gwersi sy'n cael eu rhedeg gan John Story, un wnaeth ymuno gyda'r clwb ar ôl i'w ffrind ddwyn perswâd arno.
"Ro'n i'n gweld mwy a mwy o bobl yn ymuno a rhai eisiau dysgu eu camau cyntaf, felly nes i volunteerio i helpu rhai o'r bobl newydd i gael eu camau cyntaf, tra bod yr athrawon go iawn yn cymryd y dosbarth mwya pwysig," meddai John.
O ran dysgu'r dechneg mae rhai rheolau sylfaenol sydd rhaid eu dysgu yn gyntaf yn ôl John.
"Mae 'na batrymau bach sylfaenol o sut i symud dy draed a chyn bo hir mae 'na tool kit bach o symudiad fedrith pawb eu defnyddio ar gyfer dawnsio."
'Clwb cyfeillgar'
Yn ogystal â chynnal sesiynau pob nos Iau mae 'na elfen gymdeithasol gryf yn perthyn i'r clwb hefyd, gyda sawl un yn teithio'n bell ar benwythnosau i gymryd rhan mewn nosweithiau Salsa mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain.
"Mae 'na lot ohona ni'n trafeilio ar benwythnosau i Manchester ac i Lerpwl," meddai Sion.
"Mae o pretty much yn addictive, ond mae rhai'n fodlon i droi fyny a chael pedair neu bum dawns ac mae hynny yn ddigon.
"Beth bynnag sy'n siwtio pob unigolyn ac os ydyn nhw'n cael rhywbeth allan ohono fo yna mae hi'n job done."
Yn ôl John mae awyrgylch yr ystafell yn ychwanegu cymaint at brofiad y dawnswyr pob nos Iau.
"Mae hwn yn le brilliant i ni, mae'n rhoi'r atmosphere o ddod allan am noson ac mae digon o le i gael dros 40 o bobl yn dawnsio drwy'r nos."
Mae'r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr a does neb yn derbyn tâl ac mae hynny'n elfen bwysig yn ôl John i gadw'r ethos fod y clwb yn bodoli ar gyfer "y bobl".
Dywedodd nad oes neb yn derbyn tâl am redeg y clwb a bod y clwb wastad wedi cael ei redeg am dros ugain mlynedd gan wirfoddolwyr.
Mae Sion yn benderfynol o weld y clwb yn parhau i fynd o nerth i nerth.
"Cerddoriaeth ydy fy nghefndir i, felly mae gallu cadw'r cysylltiad yna yn superb. Mae pawb yn y clwb mor gyfeillgar, mae cymaint o mics o bobl ac mae pawb yn helpu ei gilydd.
"Mewn pedair i bum mlynedd o ddawnsio yma, dwi heb weld yr un ego o gwbl yn y stafell, sy'n briliant."
Gyda Sion Sebon wedi arfer canu am 'Rhedeg i Baris' mae ei draed bellach yn creu Anhrefn go wahanol, a hynny ar y llawr dawnsio gyda hanner cant o bobl eraill angerddol sy'n mynychu Clwb Salsa Bangor yn wythnosol.
Wrth anfon neges at aelodau newydd, dywedodd Sion, "Ti ddim angen dod a neb efo chdi, jest gofyn i rywun am ddawns ac fe gei di ddawns. Mae hi mor syml â hynny!"
Hefyd o ddiddordeb: