Tad a mab o fad achub Cricieth yn galw am gymorth
- Cyhoeddwyd
Heb fodolaeth yr RNLI mi fyddai moroedd Cymru yn le llawer peryglach.
Diolch i waith badau achub ar hyd arfordir y wlad mae'r rheiny sydd yn mentro i'r môr mewn lle tipyn saffach.
Ond mae bodolaeth y badau achub hyn yn llwyr ddibynnu ar wirfoddolwyr ac mae'r RNLI yn pryderu wrth i'r niferoedd ostwng yng Ngwynedd.
Yn ôl Ifer Gwyn, sy'n aelod o fad achub Cricieth ers deng mlynedd, mae'r sefyllfa'n bryderus oherwydd mae pobl leol yn gorfod symud i ffwrdd o'r dre i ardaloedd mwy fforddiadwy.
Er hynny mae na fymryn obaith yn dal wrth i'w ei fab 17 oed, Iago, a rhai o'i ffrindiau ddilyn ôl traed ei Dad. Fuodd y ddau yn trafod siarad gydag Aled Hughes ar Radio Cymru.
"Nes i symud lawr 'ma ac roedd cwpwl o'r hogiau ro'n i'n nabod yn gymdeithasol yn y criw ma ers blynyddoedd," meddai Ifer.
"Mae'r gweddill yn hanes fel maen nhw'n dweud."
Ond dydi hanes ddim yn gorffen yn fan hyn i berthynas teulu Ifer a'r RNLI, gyda'i fab Iago wrthi'n dechrau.
"Ers oni'n fach oni'n dod lawr yma efo Dad so oni'n gwbo ei fod o'n bosib i fi ddod yma ac yn help tuag at fy ngyrfa," meddai Iago.
"Mae dod lawr a dangos bo chdi yn barod i weithio yn le da i ddechrau."
Ag yntau'n 17 oed yn unig, mae cyfrifoldeb mawr ar Iago gyda bywyd person, ar unrhyw funud, yn gallu bod yn ei ddwylo.
"Dwi'n meddwl bo hwnna yn rhoi pwysau da. Dwi'n dysgu ei fod o'n bwysig cael y pwysau yna arna'i er mwyn mynd allan o fy comfort zone a dysgu sut i ddelio efo problemau, dim jest yn y bad achub, ond yn fy mywyd.
"Mae 'na bump neu chwech ohonom ni wedi ymuno yn ddiweddar ac mae hwnna yn helpu hefyd - dy fod di efo dy fêts, a ti'n cael hwyl efo'r pethau ma a ti'n cael gwneud y cyrsiau efo'ch gilydd.
"Mae rhannu amser efo'r bobl sy'n hŷn ac sydd wedi bod yma yn lot hirach na fi yn bwysig achos ti'n dysgu lot oddi arnyn nhw fel pobl hefyd."
'Dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr'
Er bod bad achub Cricieth yn hapus iawn wrth groesawu'r gwirfoddolwyr newydd maen nhw'n dal i alw am ragor, fel nifer o fadau achub ar hyd arfordir Cymru.
"Rydan ni'n dibynnu yn llwyr ar wirfoddolwyr yn y gymuned yma," meddai Ifer.
"Ar gyfer criw rydan ni'n chwilio am bobl o Gricieth yn benodol ond hefyd rydan ni hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi ymddeol falle o faes proffesiynol sy'n teimlo falle bo nhw isio rhoi rhywfaint o'u hamser i wasanaethu yn y gymuned leol."
"Mae gorsafoedd ar hyd yn arfordir yma yng Nghymru yn awyddus i gael galwadau am bobl eraill am beth o'u hamser."
Ers iddo ddechrau yn 1824 mae'r RNLI wedi achub 142,200 o fywydau ac mae'n dal i ddibynnu ar roddion.
Mae 'na sawl swyddogaeth o fewn y bad achub - y criw sydd yn mynd ar y cwch, y criw sydd yn aros ar y lan yn gyrru'r tractors a'r cerbydau, y rhai sy'n cymryd galwadau gan wylwyr y glannau, a gweithwyr yn y siop hollbwysig i godi arian i'r RNLI.
Mae Ifer yn gweithio o adref yn rhannol pan nad ydi o allan yn y môr yn cynllunio ffermydd gwynt yn y môr.
"Da ni ddim yn gofyn i rywun fod ar gael drwy gydol yr wythnos. Mae ganddo ni gyd fywydau gwaith a theulu felly mae cydbwysedd i gael.
"Dwi'n rhoi be dwi'n gallu ar nosweithiau a phenwythnosau i wneud yn siŵr mod i ar gael ar gyfer yr RNLI."
Meddai ei fab Iago: "Dwi heb fod ar alwad eto ond mae jest bod lawr yma yn rhoi cyfrifoldeb i mi a meddwl am be fyswn i'n gwneud os fysa' na rwbath yn digwydd.
"Pob weekend mae pawb efo bywyd cymdeithasol a dani'm yn gofyn bod pawb yn dod lawr ond mae o'n bosib i bawb gael y cydbwysedd."
Hefyd o ddiddordeb: