Staff ambiwlans yn gohirio streic ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae streic arall gan weithwyr ambiwlans yng Nghymru, oedd i fod i ddigwydd ddydd Gwener, bellach wedi ei ohirio.
Roedd aelodau undeb Unite, sy'n cynrychioli tua chwarter y gweithlu, i fod i weithredu'n ddiwydiannol fel rhan o anghydfod dros dâl ac amodau.
Ond mewn neges ar Twitter nos Fercher, dywedodd yr undeb: "Yn dilyn rhagor o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, rydym wedi penderfynu gohirio streic ddydd Gwener yma."
Ychwanegodd eu bod wedi gweld "cynnydd" a'u bod yn gohirio streicio er mwyn "parhau gyda thrafodaethau".
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r penderfyniad.
Roedd Unite eisoes wedi gohirio streic oedd i fod i ddigwydd ddydd Llun diwethaf, ar ôl datgan ddydd Gwener diwethaf bod trafodaethau wedi arwain at "gynnydd sylweddol".
Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i drafod gyda thri undeb iechyd - Unite a'r GMB sy'n cynrychioli gweithwyr ambiwlans, a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru.
Roedd y tri undeb wedi bygwth rhagor o weithredu diwydiannol ar ôl gwrthod cynnig tâl diweddaraf Llywodraeth Cymru wythnos diwethaf.
Mae undebau iechyd eraill wedi derbyn y cynnig o godiad cyflog ychwanegol o 1.5%, a thaliad untro o 1.5% i staff y GIG, ar ben codiad o £1,400 a gafodd ei gynnig haf diwethaf.
Roedd y cynnig diweddaraf yn cynnwys cynigion i wella amodau gwaith.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn croesawu atal gweithredu diwydiannol ddydd Gwener tra bod sgyrsiau ystyrlon" yn parhau gyda'r undebau llafur.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2023