Gweithwyr ambiwlans yn gohirio streic ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd
Streic ambiwlans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i dros hanner staff y gwasanaeth ambiwlans fod yn gweithredu ddydd Llun - tua 2,000 o weithwyr

Mae streic gweithwyr ambiwlans oedd wedi'i threfnu ar gyfer dydd Llun wedi cael ei gohirio.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd undebau GMB ac Unite fod "datblygiadau sylweddol" wedi bod yn eu trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

"Ry'n ni'n gohirio'r gweithredu er mwyn parhau â'r trafodaethau," meddai'r datganiad.

"Diolch i chi am eich holl gefnogaeth hyd yma. Byddwn yn eich diweddaru cyn gynted â phosib."

Roedd disgwyl i dros hanner staff y gwasanaeth ambiwlans fod yn gweithredu ddydd Llun - tua 2,000 o weithwyr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "croesawu'r oedi cyn streicio gan Unite a GMB tra bod trafodaethau gyda'n partneriaid cymdeithasol yn yr undebau llafur yn parhau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae staff y gwasanaeth eisoes wedi streicio ar sawl diwrnod dros y misoedd diwethaf

Mae'r ddau undeb hyd yma wedi gwrthod cynnig tâl Llywodraeth Cymru i weithwyr iechyd.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig 3% yn ychwanegol i staff iechyd y flwyddyn nesaf, ond mae hanner hwnnw ar ffurf taliad untro.

Mae hynny ar ben yr argymhellion gan y corff sy'n adolygu taliadau, sydd eisoes wedi cael eu gweithredu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru pan wrthodwyd hwnnw eu bod yn siomedig, a'u bod yn credu fod y "cynnig yn un cryf".

Bydd trafodaethau rhwng y llywodraeth ac undebau staff y gwasanaeth ambiwlans yn ailddechrau'r wythnos nesaf mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod.

Ailagor trafodaethau ag undebau nyrsio

Dywedodd Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghymru ddydd Gwener y bydden nhw hefyd yn ailddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf.

Fe wnaeth undebau nyrsys wrthod cynnig diweddaraf Llywodraeth Cymru ddydd Mawrth.

"Rwy'n falch o gyhoeddi, wedi i'n haelodau bleidleisio i wrthod y cynnig tâl ddydd Mawrth, fod Llywodraeth Cymru wedi ailagor trafodaethau gyda RCN Cymru am dâl a thermau ac amodau ar gyfer staff nyrsio," meddai cyfarwyddwr Cymru yr undeb, Helen Whyley.

"Unwaith eto, mae ein haelodau wedi gyrru neges gadarn a chlir er mwyn dod â'r llywodraeth yn ôl at y bwrdd trafod."