Babi a gafodd ei geni ar ôl 22 wythnos yn 'ffynnu'

  • Cyhoeddwyd
ImogenFfynhonnell y llun, Rachel Stonehouse
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Imogen yn pwyso 515g pan gafodd ei geni

Mae babi oedd gyda llai na 10% o siawns o oroesi yn ôl doctoriaid, pan gafodd ei geni ar ôl 22 wythnos, yn ffynnu medd ei rhieni.

Roedd Imogen yn pwyso 515g pan gafodd ei geni yn Ysbyty Singleton yn Abertawe ym mis Medi.

Ar ôl 132 diwrnod yn yr ysbyty mae Imogen, sydd nawr yn chwe mis oed, wedi cael mynd adref i Ben-y-bont ar Ogwr.Dywedodd mam Imogen, Rachel Stonehouse: "Mae Imogen wedi bod trwy gymaint a mwy na fyddwn ni erioed yn mynd trwy yn ein bywydau, ac mae wedi gwneud yn wych."

'Dylai'r babi yma fod yn fy stumog'

"Roedd e mor frawychus. Roedd y poen yn ofnadwy," dywedodd Rachel, 28, am ei phrofiad.

Cafodd Imogen ei geni ychydig funudau ar ôl cyrraedd yr ysbyty, a chafodd ei rhoi ar unwaith mewn bag o fewn deorydd (incubator) er mwyn dynwared y groth.

Ffynhonnell y llun, Rachel Stonehouse
Disgrifiad o’r llun,

Rachel a'i phartner Corey, gyda Imogen mewn deorydd

Mae Rachel yn cofio meddwl: "Dylai'r babi yma fod yn fy stumog ond dyw hi ddim. Mae'r foetus yma nawr yn fabi i mi, a nawr mae'n rhaid i mi ymddiried yn yr holl bobl yma o'n hamgylch."

Fe wnaeth Imogen ddioddef sawl cyflwr tra yn yr ysbyty, gan gynnwys gwaedu ar yr ymennydd, murmur gwaed a sepsis.

"Roedd hi'n cael ei phrocio trwy'r dydd, pob dydd, ond roedd yn rhaid i mi gofio bod hyn er mwyn ei gwneud yn well," dywedodd Rachel.

Ffynhonnell y llun, Rachel Stonehouse

"Roedd hi'n adeg fwyaf brawychus fy mywyd, ond fydden i erioed wedi gwybod oherwydd pa mor anhygoel mae'r staff wedi bod gyda fi a fy nheulu," meddai Rachel

"Roedden nhw bob tro yn ymddiried ynof fi a fy ngreddfau fel mam."

'Nyrsys a doctoriaid yn arch-arwyr mewn scrubs'

Er ei bod adref, mae Imogen dal angen ocsigen, ond dywedodd Rachel fod doctoriaid yn hapus gyda'i horganau, ac nad oes problemau gyda'i golwg na'i chlyw.

Mae'n aneglur pam wnaeth Rachel roi genedigaeth mor gynnar, ond mae wedi cael gwybod bod siawns o 40% y gall ddigwydd eto.

Ffynhonnell y llun, Rachel Stonehouse
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel a Corey yn falch o gael Imogen adref ac yn ddiolchgar iawn i weithwyr y GIG

Am nawr, mae'n mwynhau bod yn fam newydd ac yn ddiolchgar iawn i'r GIG.

"Pan maen nhw'n dweud bod nyrsys a doctoriaid yn arch-arwyr mewn scrubs, dydyn nhw ddim yn dweud celwydd.

"Bydden ni heb ddod trwy bopeth ni wedi hebddyn nhw i gyd."

Pynciau cysylltiedig