Annog pobl i fynnu profion ar ôl diagnosis canser hwyr

  • Cyhoeddwyd
Kelly PendryFfynhonnell y llun, The Run for Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kelly Pendry yn gobeithio y bydd siarad am ei phrofiad yn helpu eraill

Mae mam o ddau o blant o Sir y Fflint sydd â math prin o ganser terfynol ar y groth yn annog menywod i fynnu profion pellach os ydyn nhw'n poeni am eu hiechyd.

18 mis yn ôl cafodd Kelly Pendry, 42 oed o Ewlo, ddiagnosis o leiomyosarcoma - math o ganser sy'n effeithio ar tua 600 o bobl yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Ond mae Kelly yn dweud bod ei symptomau wedi dechrau 'nôl yn 2016, ac mae'n credu y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iddi petai'r canser wedi cael ei ddarganfod yn gynharach, a phetai wedi cael llawdriniaeth.

"Roedden i'n cael mislifoedd trwm, mislifoedd hir, ac roeddwn i mewn llawer o boen hefyd," meddai.

"Pan es i at y doctor, roedden nhw'n dweud, 'Mae'ch corff chi'n cymryd ychydig o amser i normaleiddio' [ar ôl beichiogrwydd]."

Dywedodd Kelly ei bod wedi cael ei chynghori i ystyried pilsen atal cenhedlu neu gael coil wedi'i osod. Dro arall, cafodd ei rhoi ar feddyginiaethau gwrth-iselder.

"Ro'n i'n teimlo fel drama queen. Ro'n i'n teimlo mod i'n gorfeddwl y peth. Ro'n i'n teimlo ei fod o yn fy mhen."

Gohirio apwyntiadau oherwydd y pandemig

Er yr awgrymiadau hyn, roedd Kelly yn parhau i ddioddef yn fawr gyda'i chyflwr.

"Ar rai diwrnodau roeddwn i yn fy nyblau mewn poen," meddai.

"Roedd y diwrnodau lle doeddwn i ddim yn gwaedu yn llai na'r diwrnodau roeddwn i. Roeddwn i'n magu pwysau heb esboniad."

Ffynhonnell y llun, The Run for Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Gofynnodd doctor i Kelly: "Sut wyt ti hyd yn oed yn ymdopi?"

O'r diwedd, yn 2020, dywedodd meddyg teulu locwm wrthi nad oedd pethau'n iawn ar ôl teimlo lympiau yn ei habdomen.

"Am y tro cyntaf, roedd rhywun yn cydnabod rhywbeth. 'Sut wyt ti hyd yn oed yn ymdopi?' gofynnodd. A dywedais i, 'Dwi ddim'."

Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno llwyddodd i weld gynaecolegydd a chafodd ddiagnosis o benign fibroids.

Cafodd wybod y byddai angen hysterectomi, ond oherwydd y pandemig roedd ei hapwyntiadau'n cael eu newid yn gyson, ac ni chafodd hi'r llawdriniaeth.

Gofyn am 'gymaint o amser â phosib'

Erbyn Mehefin 2021 roedd Kelly yn gwaedu pob dydd a dywedodd ei bod "yn edrych naw mis yn feichiog".

Yr adeg honno soniodd ei doctor am fath sarcoma o ganser, ond chafodd hi ddim diagnosis swyddogol tan fis Tachwedd yn dilyn biopsi ar yr ysgyfaint.

Erbyn hynny roedd canser Kelly wedi datblygu i gyfnod 4, ac roedd yn derfynol.

"Dywedodd nyrs wrtha i am beidio â gwneud cynlluniau ar gyfer y Nadolig," meddai.

Ffynhonnell y llun, The Run for Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Kelly yw gweld ei phlant yn tyfu'n hŷn a bod yno am eu cerrig milltir

Dywedodd Kelly bod ei honcolegydd wedi dweud nad oedd modd trechu'r canser, ond y byddai'n gwneud ei orau i'w thrin.

"Mi ofynnodd i ni beth roedden ni eisiau, a dywedon ni 'amser. Gymaint o amser â phosib'.

"Dywedais nad oeddwn i'n gallu dioddef meddwl am fethu cerrig milltir [y plant] - pethau dwl fel cariadon, proms.

"Ar y pryd, ro'n i'n meddwl na fyddwn i'n eu gweld nhw'n cyrraedd eu rhifau dwbl."

Cafodd Kelly chwech rownd o gemotherapi gyda dim ond 12% o siawns y byddai'n gweithio.

Bu Kelly yn lwcus i fod yn y lleiafrif hwnnw, er bod ganddi ganser terfynol o hyd.

Sgil effeithiau'n 'ddim mewn cymhariaeth'

Mae'n bron i flwyddyn ers i Kelly orffen ei thriniaeth ac er ei bod yn cael sgil effeithiau o'r meddyginiaethau, gan gynnwys blinder, cyfnodau poeth a phoenau, mae'n dweud nad yw'n "ddim mewn cymhariaeth" â'r boen y bu'n dioddef.

Mae hi'n dweud bod eleni wedi teimlo fel bywyd teuluol arferol, a'i bod wedi teithio gyda'i phlant, Sam sy'n 10 ac Isla sy'n wyth, er mwyn gwneud i fyny am y blynyddoedd a gollwyd.

"Rydym wedi cael sefydlogrwydd am flwyddyn... ond 'da ni'n gwybod y gallai'r peth yma droi, ac mae'n gallu troi'n gyflym iawn," meddai.

Mae Kelly'n dweud ei bod dal eisiau hysterectomi, ond nad yw'r opsiwn yma'n cael ei gynnig bellach.

Ffynhonnell y llun, The Run for Kelly
Disgrifiad o’r llun,

Mae gŵr Kelly, Michael, yn gobeithio codi arian iddi gael triniaeth yn yr Unol Daleithiau

Mae Michael, gŵr Kelly, yn mynd i redeg 180 milltir gyda'r gobaith o godi £50,000 er mwyn i Kelly fynd i'r Unol Daleithiau i gael triniaeth.

Dywedodd Michael fod llawer mwy o ymchwil wedi ei wneud i'r cyflwr yno, a bod llawdriniaeth yn opsiwn yno.

"Mae doctoriaid dwi wedi siarad â nhw wedi dweud 'pam nad ydy hi wedi cael llawdriniaeth?'" meddai.

Dywedodd Kelly nad yw am feirniadu'r "GIG bendigedig", ond ei bod yn rhwystredig.

"'Da chi [y GIG] wedi gwario gymaint o arian arna i... wedi fy nghael i i le ble gallech chi gael gwared ar yr hyn sydd gen i drwy lawdriniaeth. Pam nad ydyn ni'n gwneud hynny?

"'Da ni'n teimlo fel bod drysau wedi eu cau, sydd i'w gweld ar gael mewn gwledydd arall."

Bydd Michael, sy'n 43, yn rhedeg am bedwar diwrnod o Ewlo i Hanham ger Bryste, lle gwnaeth y pâr gwrdd.

Er mwyn ymarfer mae wedi bod yn rhedeg 40 i 60 milltir yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, The Run for Kelly
Disgrifiad o’r llun,

"Efallai gallaf achub bywyd fy ngwraig trwy deithio gyda fy nhraed," dywedodd Michael

"Os dwi'n gadael i bethau fynd yn ormod i mi... dwi'n medru rhedeg ac yn teimlo'n well o ganlyniad," meddai Michael.

"Ddoe mi wnaeth fy nharo fel tunnell o frics. Ro'n i'n crio wrth i mi redeg. Ond ro'n i'n teimlo'n well ar ôl hynny."

A meddwl am ei wraig fydd yn cadw Michael i fynd wrth gwblhau ei her.

"Efallai gallaf achub bywyd fy ngwraig trwy deithio gyda fy nhraed," dywedodd.

Rhannu ei stori'n helpu eraill

Ond mae'r pâr yn realistig am y dyfodol, hyd yn oed os yw Kelly yn llwyddo i gael llawdriniaeth.

"'Da ni'n gwybod y gallan nhw gymryd yr holl beth allan ac y gallai ddod yn ôl - ni'n gwybod hynny," dywedodd Kelly.

"'Da ni eisiau i'r plant wybod ein bod wedi rhoi cynnig ar bopeth y gallwn ni. Dwi'n credu byddai hynny'n gysur mawr iawn iddyn nhw."

Mae Kelly yn gobeithio y bydd rhannu ei phrofiadau yn helpu eraill.

"Os yw fy stori'n cael ei rhannu, ac... yn cyrraedd rhywun sydd yn y camau cyntaf a'n gwneud iddyn nhw ddweud... 'dwi eisiau mwy o brofion neu dwi eisiau cael fy nghyfeirio'.

"Rydyn ni'n dechrau siarad am iechyd menywod, y menopos, y mislif... fy ngobaith yw y bydd pethau'n gwella."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'n ddrwg iawn gennym glywed am brofiad Ms Pendry ac yn ei hannog i gysylltu â'i phractis meddyg teulu, sy'n gontractwr annibynnol o'r bwrdd iechyd, fel y gellir ymchwilio i'w phryderon."