Adran Dau: Casnewydd 1-1 AFC Wimbledon
- Cyhoeddwyd
Brwydrodd Casnewydd yn ôl yn yr ail hanner i sicrhau pwynt ar Rodney Parade yn erbyn AFC Wimbledon.
Cafodd Wimbledon y dechrau perffaith i'r ornest, gyda help llaw gan eu hamddiffynnwr Chris Gunter - a gyhoeddodd yr wythnos diwethaf ei fod yn ymddeol o chwarae dros Gymru.
Methodd Casnewydd â chlirio croesiad gynnar gan Gunter - sy'n enedigol o Gasnewydd - ac roedd yr ymosodwr Ali Al-Hamadi wrth law i danio'r ymwelwyr ar y blaen wedi pum munud.
Fe gymerodd hi nes tua hanner ffordd drwy'r ail hanner i'r Alltudion unioni'r sgôr, diolch i ergyd Harry Charsley o ymyl y cwrt cosbi.
Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd heb ennill mewn pum gêm bellach, a bellach yn 18fed yn nhabl Adran Dau.