Chris Gunter yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 33 oed

  • Cyhoeddwyd
Chris GunterFfynhonnell y llun, Mike Hewitt
Disgrifiad o’r llun,

Bu Chris Gunter yn rhan allweddol o garfan Cymru ers dros 15 mlynedd, gan ennill 109 o gapiau

Mae amddiffynnwr Cymru, Chris Gunter, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 33 oed.

Bu'n rhan allweddol o garfan Cymru ers dros 15 mlynedd, gan ennill 109 o gapiau.

Ef oedd y dyn cyntaf i ennill 100 o gapiau dros dîm y dynion, ac ef oedd â'r record am y nifer fwyaf o gapiau dros y tîm rhyngwladol am gyfnod, cyn i Gareth Bale ei basio.

Roedd yn rhan o'r garfan a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Euro 2016, gan chwarae pob munud yn y gystadleuaeth ei hun, ac roedd hefyd yno ar gyfer twrnamentau Euro 2020 a Chwpan y Byd 2022.

Daeth yn un o ffefrynnau cefnogwyr Cymru oherwydd ei ymroddiad, gan chwarae 63 gêm yn olynol dros ei wlad ar un adeg, a chael ei ddewis ym mhob carfan ryngwladol ers 2010.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Uchafbwynt Chris Gunter mewn crys Cymru - y croesiad ar gyfer gôl Sam Vokes yn rownd wyth olaf Euro 2016 yn erbyn Gwlad Belg

Mae'n chwarae i AFC Wimbledon yn Adran Un ar hyn o bryd.

Gunter yw'r trydydd o hoelion wyth y garfan i ymddeol yn dilyn Cwpan y Byd, wedi i Gareth Bale ymddeol yn llwyr, a Joe Allen hefyd ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

"Rydw i wedi cael y fraint o gynrychioli ein gwlad arbennig am 15 mlynedd, ac mae wedi rhoi rhai o adegau gorau fy ngyrfa a fy mywyd i mi," meddai Gunter.

"Rydw i wastad wedi dweud ei bod hi hyd yn oed yn fwy arbennig gallu rhannu'r profiadau, nid yn unig gyda chyd-chwaraewyr, ond gyda ffrindiau, ac rydw i wedi bod mor lwcus i rannu'r ystafell newid gyda phobl fydd yn ffrindiau oes.

"O fod yn fachgen ifanc yn tyfu fyny yng Nghymru, y freuddwyd oedd chwarae a gwisgo'r crys coch.

"Ond nes i fyth freuddwydio am yr atgofion a'r profiadau mae hynny wedi'i roi i fi a fy nheulu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gunter ei fod wedi gwneud "ffrindiau oes" yn cynrychioli Cymru

"Mae hynny wedi bod yn bosib oherwydd y cefnogwyr.

"Rydw i wedi ceisio dweud sawl gwaith cymaint ydych chi'n helpu, ond mae'n anodd canfod y geiriau i egluro hynny.

"Felly fe wna i ddweud y diolch mwyaf posib, ac mi wela' i chi'n fuan."