Rhybudd melyn am law trwm i Gymru dros nos

  • Cyhoeddwyd
llifogydd ar fforddFfynhonnell y llun, Pacemaker

Mae disgwyl glaw trwm ar draws rhannau helaeth o Gymru dros nos, wrth i rybudd tywydd melyn ddod i rym.

Fe gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn am law o hanner nos tan 15:00 ddydd Iau.

Yn ôl y rhagolygon, mae rhwng 40-70mm o law yn "debygol" mewn sawl ardal o'r wlad.

Mae gyrwyr wedi eu rhybuddio i fod yn ofalus ar y ffyrdd, ac i ddisgwyl llifogydd mewn rhai mannau.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, Ceredigion, Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Torfaen a Sir Fynwy.

Daw hynny yn dilyn rhybudd o rew oedd eisoes wedi bod mewn grym ar draws 17 o siroedd Cymru, ddaeth i ben fore Mercher.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd melyn yn dod i rym am hanner nos, ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru

Pynciau cysylltiedig