Cwch wedi'i ddarganfod heb griw ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
CwchFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod yn "weddol" hyderus bod pedwar dyn a oedd ar y cwch wedi dod oddi arni'n ddiogel

Cafodd cwch ei ddarganfod yn arnofio heb griw ym Mae Colwyn dydd Sadwrn.

Am 07:20 cafodd bad achub ei alw, ac fe gafodd cwch y Phoenix Hardy ei ddarganfod rhwng y pier a Phorth Eirias.

Fe wnaeth criw'r bad achub chwilio am bobl yn y môr ond ni chafodd unrhyw un eu canfod.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn ymwybodol o'r cwch am 06:00, ac maen nhw'n gofyn am unrhyw wybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Sarsiant Mark Bamber: "Rydym yn credu bod y cwch wedi dod i'r ardal ddoe ac wedi mynd i mewn i'r dŵr yng Nghonwy."

Mae'r RNLI wedi dweud bod eu harchwiliad o'r dŵr yn "amhendant".

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod yn "weddol" hyderus bod pedwar dyn a oedd ar y cwch wedi dod oddi arni'n ddiogel.

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r heddlu tan ein bod yn fodlon mai dyna yw'r sefyllfa," ychwanegodd llefarydd.