Carchar yn 'agoriad llygad i anghyfiawnder'
- Cyhoeddwyd
A hithau'n Mis Hanes Menywod, bu Cymru Fyw'n sgwrsio gyda Carys Dafydd o Fethesda am ei phrofiad hi yn gweithredu ac yn cael ei charcharu dros yr iaith yn y 1970au.
Carys oedd y fenyw gyntaf i fynd i'r carchar dros fudiad Adfer ac mae'n dweud fod ei chyfnod yn y carchar yn 1977 wedi newid ei safbwynt hi am y byd.
Meddai: "Oedd o'n agoriad llygad a dwi'n falch iawn mod i wedi neud o - ddim yn unig oherwydd yr ogwydd gwleidyddol a ieithyddol ond hefyd oherwydd yr agoriad llygad ar y math o ferched sy'n cael eu carcharu â chymaint ohoni nhw yno gyda phroblemau iechyd meddwl, tlodi a phob math o anghyfiawnder.
"Y bobl nes i ddod ar eu traws nhw - 'oedd y pethau oeddan nhw wedi gwneud oherwydd bod gennyn nhw broblemau iechyd meddwl.
"Mi wnaeth o agor fy llygaid i yn sicr i weld pa mor anghyfiawn mae'r byd 'ma'n gallu bod."
Ynghyd â nifer o'r mudiad oedd yn peintio arwyddion, torri mewn a meddiannu tai haf ac yna'n gwrthod talu'r dirwy, carcharwyd Carys, sy'n wreiddiol o Barc y Bala, yng ngharchar Risley yn Warrington am 31 diwrnod.
Bywyd carchar
Mae hi'n cofio nôl: "Oedd mynd i'r carchar yn rhywbeth newydd (i fi) a dwi'n gobeithio bod o wedi newid bellach.
"Pan oeddat ti'n mynd i mewn oedden nhw'n dweud wrtha ti am dynnu dy ddillad i gyd, oeddat ti'n troi o gwmpas yn noethlymun.
"Oedd gena'i rhyw dabledi ac wnaeth y doctor luchio nhw i'r bin a dweud 'ti ddim yn cael cymryd rheina yn fan'ma.'
"Pan ti'n carchar dyw'r carcharorion ar y cyfan ddim yn ffrindiau efo'r swyddogion. Oedd rhywun yn teimlo dan bwysedd i beidio bod yn ffrindiau efo'r swyddogion.
"Oedd lot (o'r carcharorion eraill) yn ffeindio hi'n anodd iawn i ddeall pam bod fi wedi gwneud beth oeddwn i wedi gwneud.
"Mae'n rhaid bod un wedi camddeall yn llwyr achos 'nes i glywed hi'n dweud wrth rhywun arall, 'she broke into a holiday camp'!
"Dim ond am 31 diwrnod bûm i yn y carchar - ond oedd o'n 31 diwrnod hir iawn, iawn.
"Oedd pob diwrnod fatha wythnos. Oedd gen ti gell fach â pot pi-pi yn y gornel. Oeddat ti'n cael dy gloi rhwng 4 y prynhawn a 6 y bore. Os oeddat ti eisiau mynd i'r tŷ bach (yn yr oriau hynny) roedd rhaid ti wneud yn y pot.
"Oeddan nhw'n brin o staff ond ambell i waith gafon ni wersi ysgrifennu barddoniaeth. Oedd Mary Bell (yn y carchar hefyd), oedd hi'n reit notorious (cafodd ei charcharu am ladd dau fachgen pan oedd hi'n 11 oed) a dwi'n cofio cyfarfod hi mewn un o'r cyfarfodydd yma.
"Oedd hi'n hogan huawdl iawn ac yn gallu ysgrifennu barddoniaeth da iawn. Oedd lot o siarad amdani gan y carcharorion eraill."
Roedd Carys yn yr ail flwyddyn yn y coleg pan garcharwyd hi: "O'n i'n cael fy mhen-blwydd yn 20 oed yn y carchar.
"Dim dathlu ond fel oedd hi'n digwydd bod roedd Geraint Jarman i fod yn chwarae ym Mangor. O'n i'n teimlo mwy bod fi wedi colli y gig hwnnw i weud y gwir na pharti pen-blwydd!"
Roedd gweithredwyr eraill dros yr iaith yng ngharchar Risley ar yr un pryd: "O'n i ddim yn cael y cyfle i siarad efo neb arall ond oedd rhai eraill mewn yn yr un carchar yn yr un cyfnod.
"Ddoth Mam i 'ngweld i a dwi'n cofio nhw'n dweud bod rhaid i ni siarad Saesneg a dyma fi'n dweud, 'os 'da chi'n siarad gair o Saesneg efo fi, Mam, dwi ddim yn mynd i siarad'. Ac felly Cymraeg wnaethon ni siarad a wnaethon nhw adael i ni siarad Cymraeg."
Hawl i brotestio
Roedd gweithredu a phrotestio yn rhan o'r cyfnod, rhywbeth mae Carys yn poeni sy' dan fygythiad oherwydd Mesur yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a'r Llysoedd (PCSC).
Meddai: "Roedd o'n gyffredin yn y cyfnod yna, dyna oeddan ni'n neud - ers pan o'n i'n ifanc o'n i 'di cymryd yn ganiataol y byddwn i'n mynd i'r carchar rhyw ddydd. Oedd gennai gefnogaeth llwyr fy rhieni felly doedd o ddim yn dim byd dewr i wneud.
"Roedd hi'n oes wahanol iawn. Oedd pobl ifanc yn protestio ym mhob man ar y pryd.
"Y bobl dewr oedd y rhai oedd ddim yn cael y gefnogaeth (adref)."
Meddai Carys am y mesur newydd, sy'n cynnwys cymalau fydd, ym marn rhai, yn cyfyngu ar yr hawl i gynnal protestiadau: "Dwi'n meddwl bod o'n gam gwag iawn a bod o'n ffordd reit beryglus i fynd ymlaen. Mae protestio yn hawl dynol."
Ac mae Carys, sy' erbyn hyn yn berchen Siop 55 ym Methesda, yn falch o'i gweithred: "Oedd o'n gyfnod pwysig iawn yn fy mywyd i a dwi'n falch iawn mod i wedi cael y cyfle i wneud o - a'r holl gefnogaeth gan y teulu a'r gymuned a'r coleg a pawb.
"Mi wnaeth wahaniaeth o ran yn y cyfnod yna oedd yr arwyddion ffyrdd yn uniaith Saesneg. Mae pethau felly wedi newid lot."