Y Gymraeg: Iaith ysgol yn unig neu iaith fyw?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Gymraeg: Iaith ysgol neu iaith fyw?

Mae Lleucu, sy'n 17 oed ac o'r Barri, yn un o enillwyr cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC.

Mae'r fyfyrwraig chweched dosbarth wedi dewis edrych ar sefyllfa'r Gymraeg yn ei hardal hi, gan holi sut mae tyfu'r iaith tu hwnt i'r ysgol...

Ar ôl ymgyrch gymunedol hir, fis nesaf bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Sant Baruc yn dechrau'r broses o symud i safle newydd yn Y Barri.

Bydd y drysau'n agor yn ardal y Glannau, gyda nifer y disgyblion yn dyblu o 210 i 420.

Yn wreiddiol, cafodd ei datgan yn ysgol ddi-Gymraeg, cyn i'r cyngor wneud tro pedol.

"Doeddwn i ddim yn sicr taw addysg Gymraeg oedd yn mynd i gael y flaenoriaeth," meddai'r pennaeth, Rhian Andrew.

Erbyn hyn, meddai, mae'r awdurdodau yn "gefnogol iawn" o'r ymdrech i dyfu'r iaith Gymraeg yn ardal Bro Morgannwg.

Ond gyda'r iaith yn tyfu yn yr ystafell ddosbarth, sut mae awdurdodau yn gobeithio datblygu'r iaith yn y gymuned?

Yn ôl ffigyrau Cyfrifiad 2021, mae twf wedi bod yn nifer y bobl sy'n siarad Cymraeg yn ardal Bro Morgannwg.

Mae'r twf yma yn groes i'r sefyllfa gyffredinol ar draws Cymru, gyda'r ffigyrau'n awgrymu gostyngiad o 23,700 yn genedlaethol ers 2011.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ysgolion Cymraeg â rhan bwysig, medd Rhian Andrew, os am gyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050

Un sydd wedi bod yn dyst i'r newidiadau lleol ydy Rhian Andrew - pennaeth Ysgol Gynradd San Baruc ers 2010.

Pan ddechreuodd ei gyrfa yn Y Barri, dwy ysgol Gymraeg oedd yn yr ardal. Erbyn hyn, mae yna bedair.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod o gael miliwn o siaradwr erbyn 2050," meddai.

"Mae ysgolion Cymraeg, felly, yn hanfodol i gynyddu'r niferoedd yna."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid rhoi cyfleoedd i blant fyw eu bywydau yn Gymraeg, medd Nic Hodges

Mae Nic Hodges, cynghorydd Plaid Cymru lleol sydd hefyd yn llywodraethwr yn yr ysgol, wedi bod yn rhan o'r ymdrech i gael yr ysgol newydd.

"Cael ysgol newydd mewn ardal newydd, dwi'n credu, ydy'r ffordd ymlaen i addysg Gymraeg," meddai. "Dwi'n gyffrous iawn."

Dywed mai hanes yr ardal sydd wrth wraidd ei angerdd i frwydro dros yr iaith yno. 

"Mae e'n bwysig bod ein plant i gyd nid ond yn cael y cyfle i gael addysg Cymraeg, ond hefyd yn cael y profiad o ddiwylliant, traddodiad a cherddoriaeth Cymraeg, yn ogystal â'r cyfle i fyw eu bywydau yn y Gymraeg."

Cyfraniad hollbwysig pobl di-Gymraeg

Roedd Mark Bowen a'i deulu wedi symud i'r ardal o Lundain. Mae'r Gymraeg wedi bod yn hollbwysig iddyn nhw wrth ymgartrefu yn ne Cymru, gyda'i blant yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Sant Baruc.

Dyw ei wraig ddim yn siarad Cymraeg, ond mae e'n dweud taw ei hymdrech a'i hangerdd hi oedd wedi sicrhau fod y plant yn cael mynediad i'r iaith.

"Mae fy ngwraig yn enghraifft bwysig lle mae'r iaith yn dibynnu ar bobl di-Gymraeg," meddai. 

Mae Mr Bowen hefyd yn cynrychioli aelodau lleol y mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG), oedd wedi ymgyrchu i sicrhau fod yr adeilad newydd yn cael ei ddefnyddio fel ysgol iaith Gymraeg.

"Roedd cael yr ysgol newydd yn gyfle once in a generation i godi proffil yr iaith yng ngorllewin Y Barri."

Disgrifiad o’r llun,

Lleucu yn holi cyfrannwr yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc

Mae bron i 90% o ddisgyblion Ysgol Sant Baruc o gartrefi di-Gymraeg.

"Mae'r drysau ar agor i bawb. Fel tref 'dan ni'n trio hybu rhieni i ystyried eu plant nhw'n ddwyieithog," meddai'r pennaeth.

Yn ôl Rhian Andrew, mae cynnig cyfleoedd i'r plant gymdeithasu yn yr iaith tu hwnt i furiau'r ystafell ddosbarth yn hollbwysig ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r cyfleoedd ar gyfer chwarae a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gwella," dywedodd. "Nid yn unig iaith yr ysgol ydy'r Gymraeg. Mae e'n gallu bod yn iaith y gymuned."

'Byth wedi difaru'

Mae Lousha Reynolds yn fam sydd wedi dewis anfon ei phlant i'r ysgol Gymraeg, er nad yw hi'n siarad yr iaith ei hun.

"Gyda'r iaith Gymraeg yn tyfu, teimlais fod e'n benderfyniad pwysig a dwi byth wedi difaru hala'r plant i'r ysgol," meddai.

Er bod Ms Reynolds yn teimlo ei bod hi wedi "arfogi [ei phlant] â'r sgiliau gorau posib ar gyfer y dyfodol", dywedodd taw yn y pen draw, dewis personol ei phlant fydd parhau gyda'r iaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles yn cydnabod bod cynnal niferoedd siaradwyr wedi iddyn nhw adael yr ysgol yn her

Beth yw'r dyfodol, felly?

"Mae gyda ni rifau uwch nag erioed yn dysgu fel oedolion, ond hefyd yn dewis mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg," meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg.

Yn ôl Mr Miles, mae gweld y niferoedd yn tyfu "yn grêt", ond mae eisiau gweld mwy o bobl yn gwneud y dewis hwnnw fel bod modd iddyn nhw "fod yn rhan o gymuned o bobl sy'n siarad Cymraeg".

Mae Mr Miles yn cydnabod bod cynnal siaradwyr ar ôl iddyn nhw orffen yn yr ystafell ddosbarth yn her. Mae'r llywodraeth eisiau dyblu defnydd pobl o'r Gymraeg.

"Defnydd, defnydd, defnydd yw'r peth pwysig," meddai'r gweinidog. 

Ychwanegodd bod buddsoddi mewn digwyddiadau a sefydliadau diwylliannol fel yr Urdd a Dydd Miwsig Cymru yn hollbwysig, er mwyn magu cymdeithas lle mae'r Gymraeg i'w chlywed.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y BBC