Gêm gyfeillgar ryngwladol: Lloegr C 1-0 Cymru C
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Cymru C o flaen torf o 860 yn Altrincham nos Fawrth yn y gêm ryngwladol gyfeillgar flynyddol yn erbyn Lloegr C.
Doedd fawr o wahaniaeth rhwng perfformiad y ddau dîm oni bai am gamgymeriad gan Gymru ar ddiwedd yr hanner cyntaf a arweiniodd at unig gôl y noson.
Roedd pedwar o chwaraewyr pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd - Connor Roberts, Danny Davies, Leo Smith a Gwion Dafydd - yng ngharfan y rheolwr Mark Jones.
Roedd hefyd wedi cynnwys pedwar o chwaraewyr Met Caerdydd, tri o dîm Pen-y-bont a Kayne McLaggon o'r tîm ar frig tabl De Cymru JD, Y Barri.
Daeth gôl Lloegr reit cyn yr egwyl, yn y chweched munud o amser ychwanegol.
Ildiodd Tom Price y bêl fymryd tu hwnt i'r cwrt chwech ac er i ddwy ergyd gyntaf Lloegr fethu'r nod fe rwydodd Ryan de Havilland ar y trydydd cyfle.
Roedd Cymru wedi edrych yn fygythiol ar brydiau hefyd - roedd angen i'r golwr arbed cic rydd gan Kane Owen, chyfle da gan Sam Jones wrth postyn ac ergydiad dros y trawst gan Ryan Sears.
Ond doedd dim taro'n ôl i fod, a dim adeiladu ar ganlyniad y llynedd pan enillodd Cymru o bedair gôl i ddim yng Nghaernarfon.