Y Seintiau Newydd yn bencampwyr y Cymru Premier

  • Cyhoeddwyd
Declan McManusFfynhonnell y llun, FAW/Sam Eaden
Disgrifiad o’r llun,

Declan McManus o'r Seintiau Newydd yw prif sgoriwr y gynghrair y tymor yma, gydag 19 gôl

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru am y 15fed tro, yn dilyn gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Cei Connah.

Fe wnaeth seren y gêm, golwr Cei Connah Andy Firth, wneud sawl arbediad i gadw'i dîm ynddi wrth iddyn nhw agor bwlch yn ail safle'r Cymru Premier, yn y ras i gyrraedd Ewrop.

Ond noson y Seintiau oedd hi, gyda'u capten Chris Marriott nawr wedi ennill y gynghrair 11 o weithiau a'r rheolwr Craig Harrison hefyd yn fuddugol am y seithfed tro.

Gyda phum gêm yn weddill, bydd y Seintiau nawr yn gallu ymlacio yn ogystal â pharatoi ar gyfer ffeinal Cwpan Cymru ar ddiwedd y tymor, pan fyddan nhw'n wynebu'r Bala.

Ar ben arall y tabl, mae Caernarfon wedi diswyddo eu rheolwr Huw Griffiths wedi iddyn nhw golli gartref yn erbyn Aberystwyth nos Wener.

Dywedodd y clwb mewn datganiad eu bod yn "siomedig iawn" gyda sut oedd y tymor wedi mynd yn dilyn dechrau addawol.

Ffynhonnell y llun, CPD Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Griffiths (chwith) wedi bod yn rheolwr ar Gaernarfon ers tair blynedd

Fe wnaeth y canlyniad yn erbyn Aber olygu mai dim ond tri phwynt uwchben safleoedd y cwymp mae'r Cofis bellach, gyda phum gêm yn weddill.

Gydag Airbus i lawr yn barod, mae'r frwydr rhwng Aberystwyth (29pt), Pontypridd (31pt), Y Fflint (32pt), Caernarfon (32pt) ac Hwlffordd (36pt) i weld pwy arall allai ddisgyn.

Dim ond tair o'i 16 gêm ddiwethaf yr oedd Caernarfon wedi ennill dan arweiniad Griffiths - a dwy o'r buddugoliaethau hynny'n dod dros Airbus, sydd heb ennill gêm yn y gynghrair y tymor yma.

Bydd Richard Davies nawr yn cymryd yr awenau fel rheolwr am weddill y tymor.

Canlyniadau'r penwythnos yn y Cymru Premier

Nos Wener, 17 Mawrth

Caernarfon 0-1 Aberystwyth

Cei Connah 0-0 Y Seintiau Newydd

Dydd Sadwrn, 18 Mawrth

Y Bala 0-0 Met Caerdydd

Y Fflint 0-0 Pontypridd

Hwlffordd 4-0 Airbus

Y Drenewydd 0-1 Penybont

Pynciau cysylltiedig