Naw pafiliwn, miloedd o luniau: Atgofion Eisteddfodau Arwyn Herald
- Cyhoeddwyd
Yn gynharach yr wythnos hon fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y byddai dwy ganolfan gystadlu newydd ar y Maes eleni ym Moduan, fydd yn llai na'r pafiliwn traddodiadol.
Un sy'n ymwybodol iawn o'r pafiliynau amrywiol sydd wedi bod ar feysydd yr Eisteddfod dros y blynyddoedd yw'r ffotograffydd Arwyn 'Herald' Roberts.
Am dros 40 mlynedd roedd Arwyn yn troedio meysydd y Brifwyl yn cofnodi'r hwyl ar y maes carafanau, y nerfusrwydd gefn llwyfan ac enillwyr y prif seremonïau.
Ar ôl treulio oriau yn mynd trwy ei gasgliad o luniau, fe ddewisodd Arwyn Herald rai o'i uchafbwyntiau drwy ei lens ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd.
"Yr Eisteddfod gyntaf un i mi weithio arni oedd ym 1979 yng Nghaernarfon, a'r pafiliwn anferth o drwm, wnaeth orffen ei oes yn y diwedd ym Mhorthmadog, lle fuodd yn sefyll fel sied ddefaid am flynyddoedd maith wedyn.
"Erbyn y 1990au daeth y pafiliynau lliwgar, y rhai glas a melyn, ac wedyn gwyrdd a melyn, cyn newid wedyn i'r pafiliwn pinc, lle'r oedd pawb yn ei galw hi'n 'hwch ar ei chefn,' meddai.
Un Brifwyl benodol sy'n aros yn y cof i Arwyn yw'r Eisteddfod genedlaethol ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym 1993.
Roedd y pafiliwn yn y sied fawr a Meirion MacIntyre Huws yn ennill y gadair. Mae Arwyn yn cofio cael ffrae gan un o Brifeirdd amlycaf Cymru am beidio bod yno ar amser.
"Dwi'n cofio bod tu allan i sied y gwartheg efo'r diweddar Gerallt Lloyd Owen, ac fe ofynnodd i mi 'Be' wyt ti'n da yn fan 'ma?'
"'Fe a'i fewn yn y munud,' medde fi. Dyma fo'n ateb: 'Dos i mewn rŵan, mae dy angen di yna.'
"Wrth gwrs y fo oedd beirniaid y gadair y flwyddyn honno, ac roedd o'n gwybod fod teilyngdod ac angen i mi fod yno i dynnu lluniau," meddai.
Roedd y rhain ond yn rhai o uchafbwyntiau Arwyn.
Gwyliwch y fideo uchod i weld rhagor o'i ddewisiadau a lluniau o bafiliynau'r Eisteddfod Genedlaethol dros y pedwar degawd diwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2023