'Y gofal am ein mam yn ddiffygiol,' medd teulu
- Cyhoeddwyd
Dywed teulu dynes a fu farw wedi iddi syrthio i lawr y grisiau yng nghartref ei chwaer bod yna ddiffygion yn y gofal a gafodd wedi'r ddamwain yn Llandudno.
Bu farw Janet Margaret Jones, 61, yn Ysbyty Brenhinol Stoke ar 20 Awst 2018.
Roedd hi wedi yfed ychydig o win ond roedd ganddi gyflwr ar ei chalon a'i hysgyfaint sef gorbwysedd rhydwelïol yr ysgyfaint (pulmonary arterial hypertension).
Clywodd y cwest i'w marwolaeth bod yna oedi wedi bod cyn iddi gael ei hasesu yn Ysbyty Glan Clwyd a bod y ffaith nad oedd meddyg penodol wedi gofalu amdani wedi arafu unrhyw driniaeth.
Wedi'r cwest dywedodd ei theulu nad oedd sylw digonol wedi cael ei roi i'w mam a hynny o'r foment y cyrhaeddodd y parafeddygon hyd at ei marwolaeth dridiau yn ddiweddarach yn yr ysbyty.
"Chafodd hi ddim mo'r gofal sylfaenol na'r driniaeth yr oedd hi neu unrhyw un arall yn ei ddisgwyl neu'n ei haeddu," medden nhw.
Maen nhw'n dweud hefyd bod y dirywiad yn iechyd Mrs Jones "wedi'i anwybyddu" er bod y teulu wedi sôn am hynny wrth staff.
Dywedont bod angen i'r gofal ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr "wella'n sylweddol".
Fe ddisgynnodd Mrs Jones o Foelfre ar Ynys Môn ar 18 Awst.
Yn ystod y cwest yn Rhuthun fe nododd Rachel Limbrey sy'n ymgynghorydd ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Southampton ei bod hi'n "hynod o annheg" bod Mrs Jones wedi cael ei chyflwyno i'r adran ddamweiniau fel rhywun oedd wedi disgyn o ganlyniad i fod yn feddw.
"Fe wnaeth popeth gymryd cymaint o amser ac roedd yna lawer o ffraeo ymhlith meddygon am wneud profion," meddai Dr Limbrey.
"Cafodd ei symud o un lle i'r llall gyda'r un meddyg penodol yn gyfrifol amdani."
Roedd yna "gryn oedi," meddai, pan yr oedd Mrs Jones yn cael ei throsglwyddo i Stoke.
Clywodd y crwner nad oedd y staff yng Nghymru wedi nodi ei bod wedi torri ei hasennau ond bod hynny wedi dod i'r amlwg yn Stoke y diwrnod canlynol.
Wrth gael ei holi a fyddai gorwedd mewn gwely gydag asennau toredig wedi gwaethygu cyflwr Mrs Jones dywedodd Dr Limbrey: "Mae niwed i'r ceudod thorasig yn lleihau'r awydd i anadlu'n ddwfn. Fe fyddai'n brifo."
Wrth gwblhau ei sylwadau nododd bod y ffaith bod Mrs Jones wedi gwanhau yn ei gwneud hi'n llai tebygol o oroesi wedi ei chwymp.
Fe gafodd adolygiad o hanes meddygol Mrs Jones ei wneud gan yr Athro David Kiely o Ysbyty Addysgu yn Sheffield - mae e'n arbenigwr yn y maes.
Fe ddywedodd y byddai cleifion sy'n byw gyda ei chyflwr hi yn fyr eu gwynt neu'n benysgafn wrth ddringo'r grisiau a bod hynny wedi gallu achosi ei chwymp.
"O ystyried y gwymp a'r trawma, a'i chyflwr iechyd difrifol, ei hunig obaith o oroesi fyddai cael ei throsglwyddo at dîm arbenigol yn Sheffield."
Wrth gofnodi rheithfarn naratif dywedodd y crwner ei fod yn hapus bod newidiadau wedi cael eu gwneud yn y ddau fwrdd iechyd ers marwolaeth Mrs Jones.
Daeth i'r casgliad fod Mrs Jones wedi marw o orbwysedd rhydwelïol yr ysgyfaint a bod ei chyflwr wedi gwaethygu wedi iddi ddisgyn ar y grisiau.
Roedd ei chwymp, meddai'r crwner, yn ormod i'w system gardiofasgwlaidd wan.