Caerdydd: Dyn wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
lleoliad y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad tu allan i Ysgol Uwchradd Cathays

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd brynhawn Mawrth.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd y Gogledd yn ardal Y Waun Ddyfal ger Ysgol Uwchradd Cathays toc cyn 13:00.

Dywedon nhw fod y dyn wedi'i anafu'n ddifrifol, a bod fan wen "wedi cael ei chymryd er mwyn cynnal profion".

Ychwanegon nhw ei bod yn aneglur ar hyn o bryd pwy oedd yn gyrru'r fan ar y pryd, ond nad oes unrhyw un wedi'i arestio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r ffordd fod ar gau am rai oriau, medd yr heddlu

Dywed y llu y bydd y lôn yn debygol o fod ar gau am rai oriau.

Mae'r heddlu'n apelio am dystion ac yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.

Maen nhw hefyd yn awgrymu y dylai cefnogwyr sy'n mynd i wylio gêm Cymru yn erbyn Latfia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth ystyried ffyrdd eraill o gyrraedd y stadiwm.

Pynciau cysylltiedig