Medal aur am deyrnged i Sir Fôn... ar gacen

  • Cyhoeddwyd
Cacen Sir FônFfynhonnell y llun, Nina Evans Williams

"Be dwi'n licio 'neud i ymlacio ydi peintio, ond dim peintio ar ganfas na dim - dwi 'rioed wedi peintio ar ganfas - ond peintio ar gacennau..."

Mae sgiliau peintio cywrain Nina Evans Williams newydd ennill medal aur iddi yn un o gystadlaethau coginio mwya'r byd.

Daeth Nina, sydd o Lanfechell, Ynys Môn, yn fuddugol yn y Salon Culinaire yn Llundain am addurno cacen briodas. Ac er fod Nina wedi ennill llawer o sylw a chlod dros y blynyddoedd am y cacennau anhygoel mae hi'n eu gwneud a'u haddurno, roedd ennill medal aur a dod yn gyntaf yn ei chategori yn sioc iddi, meddai ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.

"Mae [y gystadleuaeth] on bob blwyddyn, a do'n i erioed wedi ei gwneud hi o'r blaen, ac o'n i isho'i gwneud hi un diwrnod ond do'n i ddim yn gwybod pa bryd.

Ffynhonnell y llun, Nina Evans Williams
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Nina fedal aur a dod yn fuddugol yn y categori 'cacen briodas' am ei champwaith

"Mae 'na dros 700 o chefs yna bob blwyddyn yn cystadlu efo gwahanol fwydydd, a mae 'na ochr sugar craft iddi, sef be' dwi'n wneud, efo cacennau, modelau, blodau siwgr... popeth."

Yr unig ganllawiau oedd bod yn rhaid i'r gacen gael o leiaf dwy haen, ac er fod y gacen ei hun yn cael bod o polystyrene, roedd rhaid i'r addurniadau eu hunain fod yn fwytadwy. Fel arall, roedd Nina yn rhydd i wneud beth oedd hi eisiau.

'Teyrnged i Sir Fôn'

Felly sut y penderfynodd hi beth i'w wneud, er mwyn ceisio plesio rhai o enwau mwyaf y byd coginio a fyddai'n beirniadu ei hymgais?

"Be' dwi'n licio 'neud i ymlacio ydi peintio," eglurodd, "ond dim peintio ar ganfas na dim - dwi 'rioed wedi peintio ar ganfas - ond peintio ar gacennau. O'n i'n meddwl, 'wel 'sa hynna'n rhywbeth neis i'w 'neud', a hefyd o'n i isho dangos mod i'n dod o Sir Fôn - fel teyrnged i Sir Fôn - a mae 'na lot o olygfeydd hardd iawn rownd Sir Fôn a lot o lefydd lyfli ar yr arfordir."

Beth mae Nina wedi ei bortreadu ar y gacen yw golygfeydd hardd o Ynys Llanddwyn, Penmon, Pont Britannia a Phont Menai, heb anghofio am y creaduriaid sydd i'w gweld ar yr ynys, gyda lluniau o geffyl a dau bâl. Yn goron ar y cyfan mae tonnau o isomalt - math o siwgr y mae angen ei boethi er mwyn ei siapio - sydd yn 'llifo' o amgylch y cyfan.

"Mi gymerodd wythnosau, gweithio 'chydig o oriau yma ac acw pan o'n i'n medru - o'n i isho gwneud job dda ohoni hi, felly o'n i'n cymryd fy amser efo hi. Ond 'nath y tonnau isomalt gymryd diwrnod cyfan i mi ei roi ar y deisen."

Ffynhonnell y llun, Nina Evans Williams
Disgrifiad o’r llun,

Y don 'isomalt' yn codi dros Bont Menai - gweithio gyda'r siwgr poeth oedd y rhan mwyaf cymhleth o'r greadigaeth, meddai Nina

Ac yn ffodus, ni chafodd y gacen ormod o ddifrod yn ystod y siwrnai hir o Sir Fôn i Lundain, er mwyn iddi gael ei harddangos a'i beirniadu.

"Roedd fy nerfau i reit ddrwg ar y diwrnod. O'n i'n lwcus, Mike fy ngŵr i oedd yn dreifio ac yn ei chario hi o gwmpas."

Wedi gosod y gacen yn ei lle brynhawn dydd Sul roedd hi'n ddydd Mercher cyn i'r beirniadu ddod i ben.

"Aethon ni'n ôl 'na ddydd Mercher, a ges i andros o sioc pan welis i be o'dd o mlaen i, sef wedi curo'r fedal aur, a'r gorau yn y dosbarth... O'dd o'n wych, do'n i'm yn gwybod be' i ddweud!

Cacennau feiral

Mae rhai o gacennau eraill Nina wedi cael sylw mawr hefyd. Aeth lluniau o'r gacen wnaeth hi ar gyfer pen-blwydd ei mab yn feiral ar draws y byd, sef cacen oedd yn edrych yr un ffunud â pharsel Amazon.

Ffynhonnell y llun, Nina Evans Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cacen ydi hon... addo!

Dros y blynyddoedd, mae hi wedi ennill amryw o wobrau, wedi gwneud dwy gacen i'r band The Osmonds, wedi derbyn clod gan feirniad The Great British Bake-Off, y cogydd Paul Hollywood, ac wedi codi gwên gyda'i chacennau hardd a 'hyper-realistic' (sydd wedi achosi rhai i grafu pen hefyd mae'n siŵr).

Ffynhonnell y llun, Nina Evans Williams
Disgrifiad o’r llun,

Esgidiau a gitâr... neu gacennau?!

Ffynhonnell y llun, Nina Evans Williams
Disgrifiad o’r llun,

Cacen neu ginio dydd Sul...? Cacen!

Er hyn, mae Nina'n dweud ei bod wastad wedi amau ei gallu ei hun. Felly ydi ennill un o wobrau mwyaf y byd coginio wedi codi ychydig ar ei hunan-hyder?

"Dwi'n ofnadwy o browd... yn falch o fi fy hun. Dwi'm yn ei weld o yn fi fy hun; mae pobl yn dweud wrtha' i, ond tydw i'm yn ei weld o

"Ond pan dwi'n ennill wedyn, mae hynny'n dangos i fi... Dwi 'di diodda o or-bryder, ac mae o'n ofnadwy o help i mi i ddangos mod i'n gallu gneud y pethau 'ma."

Gwrandewch ar Nina yn trafod ei buddugolaeth gyda Shân Cothi ar BBC Sounds

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig