Ychwanegu pinsied o Gymreictod i'r Bake-Off
- Cyhoeddwyd
Cymraes yn wreiddiol o Bronwydd, Sir Gâr, ond bellach yn byw yn Ninbych y Pysgod, yw un o gystadleuwyr The Great British Bake-Off eleni.
Mae Michelle Evans-Fecci wedi bod yn ffan o'r gyfres bobi boblogaidd ers y dechrau un, ac wedi ymgeisio i fod ar y rhaglen deirgwaith o'r blaen.
O'r diwedd, ar ei phedwerydd ymgais, mae hi wedi bod yn llwyddiannus, ac mae hi'n prysur wneud ei marc ar y rhaglen, gan blesio'r beirniaid, Paul Hollywood a Prue Leith, ac ennill cefnogwyr ledled Prydain gyda'i chacennau a'i bisgedi trawiadol.
Felly beth sydd yn ei hysbrydoli?
"Fel plentyn bach, o' fi'n hoffi coginio gyda Mam yn y gegin, ac o'dd hi'n g'neud lot o bethe' traddodiadol," meddai Michelle. "Fi'n hoffi nawr 'neud pethe' gwahanol a dod â pethe o'r ardd a pethe o ble fi'n byw [ar y rhaglen].
"Nes i ddod â moron ar gyfer y gacen foron, ac wyau o'n iâr ni. Fi'n trial dod â shwt gymaint o bethe [â phosib] o gartre mewn.
"Fi 'di trial ca'l lot o bethe Cymraeg mewn, achos fi 'di'r unig berson sy' o Gymru yn y tent blwyddyn hyn. Fi mo'yn dod â digon o Gymraeg mewn, os dwi'n gallu.
"Y dasg gynta' oedd cacen gyda lot o ffrwythau sych, felly o'n i mo'yn dod â bara brith, wrth gwrs."
A hithau wedi bod wrthi ers blynyddoedd, mae gan Michelle lawer o brofiad mewn pobi llawer o wahanol fathau o fwydydd, ond mae pobi o dan amgylchiadau'r babell yn wahanol iawn i bobi yn eich cegin eich hun, meddai.
"O'n i dan straen weithie. Mae popeth yn mynd yn iawn gartre, achos mae popeth eich hunan gyda chi. Ond pryd chi mewn yn y babell, mae fe mor stressful ac emosiynol achos ti mo'yn 'neud yn dda.
"'O'n i'n stryglan weithie, ond fi'n falch bod e ddim yn dangos ar y teledu! Er dim ond unwaith fi 'di gwylio pob rhaglen, achos fi'n wherthin yn gweld fy hunan ar y teledu, achos ma' fe mor surreal!
"O'n i wastod yn panicio pan o'n i'n mynd mewn - mae'r technicals mor galed. Fi wastad yn trial edrych trwy recipe books a ni'n trial dyfalu [beth yw'r dasg], ond 'so ni'n gwybod.
"Pan oedden ni'n cyrraedd yn y bore am saith, roedden nhw'n cymryd ffôn ni bant, a llyfre a laptops a phethe fel'ny. A doedd dim hawl i ni sgwrsio am beth oedden ni'n meddwl oedd am ddod lan."
Er hyn, mae Michelle eisoes wedi ennill y teitl 'Star Baker' ac wedi cael sylwadau anhygoel gan y beirniaid yn y ddwy bennod gyntaf - cafodd ei bisgedi eu galw yn 'eithriadol', a'i chacen foron yn 'ddi-fai'.
"O'dd Prue eisie fy recipe fi i fynd â fe adre iddi gael ei bracteisio ei hunan!"
Er fod pawb yn y babell eisiau ennill y gystadleuaeth, does yna ddim cythraul coginio yn agos at y lle, gyda phawb yn gefnogol iawn o'i gilydd. Roedd hyn yn amlwg pan helpodd Michelle Jamie yn yr wythnos fisgedi i geisio gorffen ei dasg:
"O'n i'n teimlo mor drist drosto fe, achos o'n i wedi bennu ac yn rhoi bisgedi fi mas. Ac o'dd e'n stryglan - o'dd rhaid i fi helpu.
"Cystadleuaeth yw e, ond o'n i byth yn teimlo fel 'ny, achos maen nhw mwy fel ffrindie i fi."
Mae Michelle yn teimlo'n ffodus o'r holl gefnogaeth mae hi wedi ei gael hyd yma, nid yn unig gan ei theulu a ffrindiau, ond hyd yn oed rhai o'i harwyr!
"Mae'r gefnogaeth wedi bod mor dda - fi'n cael lot o negeseuon bob dydd. Mae pob un mor garedig a mor neis.
"Ond ges i sioc pryd oedd Nigella [Lawson, y cogydd] wedi hala neges i fi. Roedd hi wedi ffeindio fi ar instagram ac wedi gweud bod hi tu ôl i fi!
"O'n i mor hapus!"
Hefyd o ddiddordeb: