Hanes annisgwyl (a dychrynllyd) hufen iâ…
- Cyhoeddwyd
I lawer, mwynhau hufen iâ yn yr heulwen yw un o bleserau pennaf yr haf. Ond faint wyddoch chi am hanes annisgwyl - a ddychrynllyd - un o'n hoff ddanteision melys?
Yr hanesydd Elin Tomos sy'n esbonio...
Erbyn heddiw, mae'n debyg mai'r perygl mwyaf wrth fwyta cornet fanila ydy mymryn o brain-freeze. Ond dros ganrif a mwy yn ôl, roedd llawer mwy yn y fantol gydag adroddiadau o wenwyn bwyd yn drwch yn y wasg boblogaidd yng Nghymru.
Yn 1843 cafodd y broses o gynhyrchu hufen iâ ei symleiddio yn sylweddol gan beiriant newydd. Ynghyd â gostyngiad ym mhris siwgr a datblygiad aruthrol y diwydiant rhew masnachol, fe ddaeth hufen iâ yn drît poblogaidd ymhlith y cyfoethog a'r tlawd.
Tra'r oedd cwsmeriaid cefnog yn mwynhau hufen iâ oedd yn debycach i gwstard ac yn cynnwys cynhwysion moethus fel hufen ac wyau byddai'n rhaid i'r tlawd fodloni ar rysáit symlach: llefrith, siwgr, cyflasynnau (flavourings) a thewychwyr fel blawd corn neu gelatin. Cyn dyddiau'r cornet gwerthwyd hufen iâ mewn 'penny licks', sef gwydrau bychain, tew, fyddai'n rhoi'r argraff fod llawer mwy yn y gwydr na'r gwirionedd!
Yn naturiol, wrth i boblogrwydd hufen iâ gynyddu gwelwyd cynnydd hefyd yn y nifer o achosion rhyfedd o wenwyn. Un o'r rhain oedd achos John Williams, bachgen 14 mlwydd oed a fu farw yn Nhredegar ym 1889 ar ôl bwyta 'gormodedd' o hufen iâ. Ond beth oedd achos y fath drychineb? Wrth graffu ar achosion hanesyddol nid tasg hawdd yw cael ateb.
Dylanwad o dramor a rhagfarn
Yng Nghymru, bu dylanwad mewnfudwyr o dde'r Eidal yn ogystal ag ardal Ticino yn y Swistir yn greiddiol i ddatblygiad y diwydiant hufen iâ Cymreig. Wrth geisio dod at wraidd achosion o wenwyn fe gyhoeddwyd sawl adroddiad damniol - a senoffobig - yn y wasg boblogaidd yng Nghymru gan ymosod ar y sawl oedd yn gwerthu: mewnfudwyr Eidalaidd, tlawd.
Ym mis Medi 1899, yng nghylchgrawn Tywysydd y Plant cyfeiriwyd at werthwyr hufen iâ fel 'dynion brwnt', gan nodi y byddai 'mamau yn rhyfeddu pa le y cafodd eu plant … typhoid neu diphtheria, heb feddwl fod yr afiechyd wedi ei gael drwy fwyta Ice Cream ar yr heol.'
Credai rhai meddygon mai gwenwyn fanila oedd wrth wraidd y broblem gan fod cynhyrchwyr weithiau yn defnyddio cardol - olew gwenwynig sy'n deillio o blanhigyn cashiw - er mwyn gorchuddio'r codau fanila. Gyda chymaint o feddygon yn rhoi sylw i sgil-effaith posib fanila, methodd yr awdurdodau ystyried effaith niweidiol y cynhwysion eraill - yn enwedig llefrith a dŵr.
Rhywbeth yn y dŵr?
Does dim dwywaith na fu sawl achos o deiffoid yn gysylltiedig â chartiau hufen iâ yn sgil yr arfer cyffredin o ddefnyddio llefrith israddol yn ogystal â'r defnydd o ddŵr llygredig. Roedd yr arfer peryglus o ail-rewi hufen iâ oedd wedi dadmer hefyd yn gyfle perffaith i facteria ddyblu.
Roedd rhai cynhyrchwyr yn euog o gynnwys cynhwysion ffiaidd yn eu hufen iâ. Ym 1895 cynhaliwyd ymchwiliad swyddogol ar hufen iâ Llundain gan gyfnodolyn meddygol The Lancet. Yn eu sampl, fe ddarganfuwyd olion o lau gwely, chwain, gwellt, gwallt dynol, blew anifeiliaid gan gynnwys cathod a chŵn, llwch glo a meinwe cyhyrol dynol ac anifeiliaid!
Mae'n bur debyg mai oherwydd gwenwyn bwyd cyffredin megis gastro-enteritis, salmonellosis, neu wenwyn E. coli y bu achos sawl marwolaeth. Ym mis Awst 1906, trawyd Aubrey Porter, bachgen bach wyth mlwydd oed o'r Fenni yn wael wedi iddo fwyta hufen iâ ar y traeth ym Mhenarth gyda'i fodryb, Elizabeth.
Ar ôl ychydig oriau roedd Aubrey yn taflu i fyny ac yn dioddef o boenau stumog difrifol. Bu farw ymhen deuddydd yn sgil llid y coluddion - irritation of the bowels.
Roedd eraill yn grediniol mai tymheredd yr hufen iâ oedd yn achosi salwch; ym marn sawl meddyg nid oedd system dreulio plant bychain yn gallu ymdopi â rhywbeth mor oer, fel yn achos Mary Williams, merch fach wyth mlwydd oed o Nant-y-moel a fu farw ym 1902 gwta bum munud ar ôl bwyta gwerth hanner ceiniog o hufen iâ. Yn ôl bob sôn roedd y meddyg lleol, Dr. D. J. Thomas, o'r farn mai tymheredd oer yr hufen iâ oedd wedi atal calon Mary rhag curo.
Yn ystod degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif cafwyd nifer o ddeddfau a fyddai'n rheoli, ac yn eu hanfod, yn gwyrdroi'r diwydiant bwyd a chynhyrchu yng ngwledydd Prydain gan olygu bod modd i bawb bellach fwynhau hufen iâ heb boeni am unrhyw sgil-effeithiau amheus!
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol fis Mehefin 2021.
Hefyd o ddiddordeb: