Canfod corff carw ar ôl rhybudd heddlu i beidio ei fwyta

  • Cyhoeddwyd
carw cochFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu'n dweud eu bod wedi canfod corff carw yr oedden nhw wedi rhybuddio pobl i beidio ei fwyta gan y gallai beri perygl iechyd.

Yn gynharach ddydd Iau roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio'r person a symudodd corff y carw oddi ar ochr y ffordd fod yr anifail wedi derbyn meddyginiaeth a allai fod wedi'u peryglu.

Cafodd swyddogion eu galw i ddigwyddiad am 06:50 fore Iau yn ardal Golfa ar yr A458, lle'r oedd car wedi bod mewn gwrthdrawiad â charw tua milltir o'r Trallwng.

Oherwydd anafiadau difrifol bu'n rhaid i filfeddyg roi'r anifail i gysgu.

Ond rhyw bryd rhwng 08:00 ac 08:50 cafodd corff y carw ei symud gan aelod o'r cyhoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Oherwydd lefel y feddyginiaeth a roddwyd gan y milfeddyg, mae'r carw'n peri risg iechyd, ac rydym yn bryderus fod y person ddaeth o hyd iddo yn bwriadu ei fwyta."

Ond nos Iau fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi canfod yr anifail, ac y byddan nhw'n ei waredu'n ddiogel.

Pynciau cysylltiedig