Taith o Croatia wedi costio £932 i gefnogwr o Langefni

  • Cyhoeddwyd
Ieuan DaviesFfynhonnell y llun, Ieuan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cwmni Lufthansa wedi gwerthu tocyn dychwelyd Ieuan Davies gan ddadlau nad oedd ar yr hediad draw i Split ond mi oedd e!

Dywed un o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru ei fod wedi gorfod gwario dros £900 yn ychwanegol i ddychwelyd o Croatia oherwydd nam tebygol gyda chyfrifaduron cwmni hedfan Lufthansa.

Roedd Ieuan Davies, 56, o Langefni ar Ynys Môn wedi bwcio hediad i Croatia ac yn ôl er mwyn gweld Cymru yn chwarae yng Ngemau rhagbrofol Euro 2024.

Fe gyrhaeddodd Croatia heb unrhyw drafferth gan hedfan o Fanceinion ar 24 Mawrth ond pan geisiodd ddod yn ôl ar 26 Mawrth dywedwyd wrtho gan y cwmni hedfan fod ei docyn wedi cael ei werthu am nad oedd wedi hedfan i Croatia.

Wrth ymateb dywed cwmni Lufthansa bod yn rhaid i Mr Davies gysylltu â'r adran sy'n delio â chwsmeriaid - rhywbeth y mae Mr Davies eisoes wedi ei wneud droeon.

Dywedodd ei fod wedi dechrau poeni pan nad oedd manylion ei hediad yn ôl i'w gweld ar ap Lufthansa ar ei ffôn.

Ffynhonnell y llun, Ieuan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cael gwybod na allai hedfan o Split wedi'r gêm yn sioc i Ieuan Davies

Wrth siarad â'r BBC dywedodd bod ei ffrindiau wedi dweud wrtho am beidio poeni ond pan ffoniodd y cwmni hedfan dywedwyd wrtho nad oedd ar y daith draw i Split.

"Ond dwi yn Split," ddywedais i wrthyn nhw.

Wedi sawl galwad ffôn aeth Mr Davies i'r maes awyr a dywedwyd wrtho nad oedd ei enw i lawr ar gyfer yr hediad.

O ganlyniad bu'n rhaid i Mr Davies brynu'r unig sedd oedd ar ôl ar awyren a fyddai'n sicrhau ei fod yn cyrraedd gogledd Cymru erbyn bore Llun - sef tocyn dosbarth busnes gyda chwmni Air France.

Roedd pris y daith yn £932.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar ddiwedd y gêm fe wnaeth Nathan Broadhead sgorio gan ddod â Chymru yn gyfartal

Ers dod adref mae Mr Davies wedi ffonio cwmni Lufthansa sawl gwaith a dywed ei fod yn hynod o rwystredig bod y cwmni awyrennau yn dweud nad oedd e wedi hedfan yno.

Un siawns mewn pum miliwn

Dywed fod ei holl ddogfennau wedi cael eu gwirio ar y ffordd draw a'i fod methu deall beth allai fod wedi digwydd.

"Mae o'n rhyw fath o nam cyfrifiadurol," meddai.

"Dwi wedi rhoi iddyn nhw rif y sedd yr oeddwn yn eistedd ynddi ac wedi sôn wrthyn nhw hefyd am y teithiwr drws nesaf.

"Maen nhw wedi dweud wrthai mai un siawns mewn pum miliwn sy' 'na bod hyn yn digwydd."

Dywed ei gwmni yswiriant y gallai fod yn anodd iddo hawlio iawndal gan nad oes ganddo unrhyw waith papur i ddangos ei fod ar y daith draw - roedd y cyfan ar yr ap ac mae ei holl fanylion wedi diflannu.

Ers y digwyddiad dywed Mr Davies ei fod wedi cael llawer o gymorth gan Rhun ap Iorwerth AS a Chymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru.

"Ond fe all y mater gymryd misoedd i'w ddatrys," meddai.

"Mae'n dangos pa mor flêr y gall y diwydiant awyrennau fod. Rhywsut fe hedfanais i Croatia a does dim cofnod o hynny."