Ymchwiliad i chwaraewr Caerdydd yn anadlu nwy chwerthin

  • Cyhoeddwyd
WickhamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Connor Wickham gyda'r Adar Gleision ym mis Chwefror

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn ymchwilio wedi i un o'u chwaraewyr gael ei weld mewn fideo yn anadlu nwy chwerthin o falŵn.

Cafodd y fideo ei bostio gan Connor Wickham ar ei dudalen Instagram, oriau wedi i'r tîm golli o 3-2 yn erbyn Abertawe yn y gêm ddarbi dros y penwythnos.

Roedd y fideo hefyd yn dangos yr ymosodwr yn canu a dawnsio mewn car, ac mae hynny wedi denu beirniadaeth gan gefnogwyr y clwb.

Mae Wickham, 29, bellach wedi dileu'r fideo, a dweud ei fod yn "deall ei gyfrifoldebau fel chwaraewr proffesiynol".

Ychwanegodd fod y golled i Abertawe "wedi brifo'n fwy nag erioed", ac y byddai'n gweithio'n galed "i helpu'r clwb i sicrhau'r canlyniad gorau ar ddiwedd y tymor".

Daw hyn wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bwriad i wahardd ocsid nitraidd, neu nwy chwerthin, wrth iddyn nhw geisio taclo ymddygiad gwrth-gymdeithasol.

Mae'r sylwedd yn cael ei gadw mewn tuniau metal bychan, a'i anadlu gyda balŵnau, gan greu teimlad o ymlacio a datgysylltu o realiti.