Cwmni yn cytuno i adfer byrllysg hanesyddol Bangor am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae byrllysg (mace) sy'n cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau seremonïol ym Mangor ers bron i 150 o flynyddoedd wedi cael ei achub gan gwmni gemwaith yn Llundain.
Mae byrllysg y ddinas wedi gweld dyddiau gwell, gyda rhannau ohono yn disgyn yn ddarnau ac wedi malu.
Mae wedi ei ddefnyddio gan bob un o feiri'r ddinas ers 1884, ac mae pryder wedi bod am y gost o'i drwsio.
Ond mae cwmni gemwaith yn Llundain, sydd â chysylltiadau â Bangor, wedi cytuno i'w drwsio am ddim.
Yn ôl cyngor y ddinas, y gobaith ydy y bydd y gwaith yn adfer y byrllysg i'r cyflwr gwreiddiol ac yn destun balchder i'r ardal.
Mae cwmni Wartski wedi eu lleoli ar St James Street yn Llundain ac wedi bod yn gyfrifol am greu modrwyon priodas y Brenin Charles III a'r Frenhines Gydweddog.
Cafodd ei sefydlu yng Ngwlad Pwyl yn 1865, cyn i'r cwmni agor ei safle cyntaf ym Mangor yn yr 1880au.
Maen nhw wedi cytuno i adfer y byrllysg am ddim gan mai Isidore Wartski, aelod o'r teulu a sefydlodd y cwmni, oedd maer y ddinas ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.
Y bwriad ydy cludo'r byrllysg i Lundain yn ystod yr wythnosau nesaf, lle bydd yn cael ei drin gan arbenigwyr.
Mae dau beth o'i le gyda'r byrllysg, yn ôl Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr Dinas Bangor.
"Uwch y byrllysg mae'r darnau bach wedi dod i ffwrdd, a hefyd pan ti'n codi o mae'n dechrau dod yn ddarnau," meddai.
"Ar hyn o bryd, 'dan ni ddim yn gallu cerdded o gwmpas efo fo gan neith o ddod yn ddarnau."
Mae'r byrllysg yn symbol o gysylltiadau brenhinol dinas Bangor, ac mae wedi cael ei ddefnyddio yn ystod ymweliadau brenhinol yn ogystal â seremonïau'r maer.
"Naethon ni yrru neges i deulu Wartski, hen deulu o Fangor, ac maen nhw wedi cynnig trwsio fo i ni," ychwanegodd Dr Hanks.
"Mae'n grêt i'r ddinas a'r cwmni hefyd fod 'na dal gysylltiad, a bod nhw'n teimlo mor gryf am hanes Bangor i 'neud hyn."
Yn ôl y cwmni maen nhw "wrth eu bodd" yn gallu cynnig adfer a thrwsio'r byrllysg.
"Dyma'r union fyrllysg y byddai Isidore Wartski, mab Morris Wartski wnaeth sefydlu'r cwmni, wedi ei ddefnyddio tra'n faer y ddinas rhwng 1939 a 1941," meddai'r cwmni.
"Rydym yn falch iawn o'n treftadaeth Gymreig ac mae'n addas felly bod Wartski yn derbyn yr alwad i helpu adfer y byrllysg hynafol yma."
Y Cynghorydd Mark A Roberts fydd yn cludo'r byrllysg i Lundain yn fuan ar gyfer y gwaith atgyweirio.
"Mae o wedi bod yn rhan o hanes dinas Bangor ers dros 140 o flynyddoedd, a bellach mae o'n rhy sigledig," meddai.
"Er dydi o'm yn edrych yn wael o'r tu allan, tu mewn mae 'na bolyn pren sydd angen ei drwsio, a hefyd y darnau ar ei ben."
Dydy'r byrllysg erioed wedi cael ei brisio, ac felly roedd pryder y byddai'r gwaith wedi bod mor gostus na fyddai'n bosib ei adfer.
Mae cyngor y ddinas nawr yn gobeithio y bydd modd defnyddio'r byrllysg seremonïol am ganrif arall i ddod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022