Ffarwél i gerflun dadleuol Bangor
- Cyhoeddwyd
Tanc septig, gofodwr, blob, cartref y Teletubbies a hyd yn oed baw trwyn... dyna rai o'r disgrifiadau gan bobl leol o ddarn o gelf cyhoeddus wnaeth rannu barn yn ardal Bangor wedi iddo gael ei osod ger canolfan Pontio yn 2015.
Ond bellach, mae'r cerflun wnaeth greu cymaint o stŵr yn lleol wedi mynd - wedi ei ddatgymalu a'i gludo i ffwrdd fis Medi 2022 wrth i Brifysgol Bangor drawsnewid Parc y Coleg.
Wedi'i wneud o wydr ffeibr gwyrdd llachar, cafodd y cerflun ei greu gan Atelier Van Lieshout o'r Iseldiroedd. Mae wedi ei symbylu gan hanes y Caban yn chwareli gogledd Cymru.
Yn y Caban y byddai chwarelwyr yn cwrdd amser cinio i drafod pynciau gwleidyddol a chynnal digwyddiadau diwylliannol ers talwm.
Ond mae dehongliad cyfoes Van Lieshout o'r syniad yma wedi bod yn destun trafod mawr ers iddo gael ei osod mewn lle amlwg ym Mangor islaw adeilad hardd y Brifysgol.
Un sy'n falch iawn o weld ei gefn yw Menai Williams o Fethesda.
"Hwrê" oedd ei hymateb i'r ffaith bod y cerflun yn mynd.
"Gwarth ei fod wedi cael ei roi yno yn y lle cyntaf - diffyg parch affwysol tuag at y chwarelwyr a roddodd o'u harian prin i godi'r Coleg ar y Bryn."
Pan aeth Newyddion BBC Cymru i holi barn pobl amdano fis Ebrill cafodd ei ddisgrifio fel dolur llygad.
"Mae o'n uffernol," meddai un aelod o'r cyhoedd.
"I ddweud y gwir wrthach chi mae o'n edrych fel pen rhyw alien neu rywbath yn tydi… dwi'm yn gwybod pam bod o yna a dweud y gwir... dwi'n meddwl bod o rywbeth mwya' hyll y gweles i erioed!" meddai un arall.
'Heb gael chwarae teg'
Ond nid pawb sy'n gweld pethau yr un fath.
Mae Ffion Jon, sy'n byw yng Nghaernarfon, yn siomedig ac yn credu nad yw'r gwaith gan stiwdio gelf fyd-enwog y cerflunydd Joep Van Lieshout wedi cael chwarae teg.
"Mae'r cysyniad o greu y fath adeilad yn andros o ddiddorol ac yn plethu yr arfer o drafod a rhannu syniadau creadigol y Caban traddodiadol yn chwarel y Penrhyn efo syniadau seicadelig meibion yr un ardal yn fwy diweddar fel y Super Furries ac ati," meddai.
"Y syniad gwreiddiol gan yr artist oedd ei fod o i gael ei osod yng nghanol coed a gwyrddni. Dydi o heb gael chware teg i embedio i mewn i'w gynefin.
'Unig waith' Van Lieshout ym Mhrydain
"Daeth criw o fyfyrwyr MA Cerflunio o brifysgol yn Lloegr i Fangor yn ddiweddar i weld Y Caban gan mai dyma'r unig waith gan Atelier Van Lieshout ym Mhrydain.
"Mi fyswn i wrth fy modd yn ei weld tu allan i'r Ysgol Gelf ym Mharc Menai. Byddai hyn yn pontio, yn llythrennol, yr ysgol gelf efo'r brifysgol."
Mae Ffion yn pryderu am waddol y darn o gelf os yw'n cael ei roi mewn storfa yn hytrach na'i arddangos.
"Byddai'n drueni os yw'n cael ei gadw o'r golwg."
'Testun trafod yw celf'
Mae Prifysgol Bangor, perchnogion Pontio, wedi dweud y bydd y Caban yn cael ei storio tan dod o hyd i gartref newydd iddo.
Dywedodd Iwan Williams o'r brifysgol ei fod yn derbyn bod y Caban wedi bod yn ddadleuol ond mai pwrpas celf yw annog trafodaeth.
"Mae 'na ystod eang o opiniau dwi'n meddwl am y peth, ond wrth gwrs diben celf yn aml yw ysgogi rhyw fath o drafodaeth a dwi'n meddwl mae Caban wedi gwneud hynny yn sicr," dywedodd.
Y cynllun yw ailddatblygu Parc y Coleg dros y 15 mis nesaf.
Bydd amffitheatr lle mae'r caban yn sefyll rŵan a llawer mwy i gysylltu y Coleg ar y Bryn a Dinas Bangor islaw.
Dywedodd y cerflunydd ei hun, Joep Van Lieshout, mewn cyfweliad unwaith: "Dwi ddim yn hoffi clywed 'O, mae mor hardd, mor unigryw... mae'n ffitio mor dda yn fy fflat.' Mae hynny'n fy ngwylltio. Os yw rhywun yn dweud 'O mae'n hyll' dwi'n gwybod mod i wedi gwneud rhywbeth yn iawn. Pan mae celf yn aflonyddu ar rywun, mae'n golygu mod i wedi cyffwrdd rhywbeth."
Yn hynny o beth, mae'n debyg fod ei waith ym Mangor wedi llwyddo felly...
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2021