Arestio dau ddyn ar amheuaeth o dreisio yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd y llwybr tanddaearol rhwng ymyl Castell Caerdydd a gwesty'r Hilton ar gau wrth i swyddogion heddlu ymchwilio
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o dreisio yng nghanol Caerdydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng nghanol y brifddinas - rhwng ymyl Castell Caerdydd a gwesty'r Hilton - yn oriau mân bore Sadwrn.
Mae'r ddau ddyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw berson arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.