Y Felinheli: Dynes, 28, wedi marw a phlentyn, 4, yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
A487 Felinheli
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Y Felinheli, sy'n cysylltu Bangor a Chaernarfon

Mae dynes wedi marw a phlentyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Y Felinheli ger Caernarfon.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A487 yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd am tua 19:00 nos Lun.

Bu farw dynes 28 oed, a oedd yn gyrru Peugeot 208, yn y fan a'r lle.

Cafodd plentyn pedair oed ei gludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl gydag anafiadau allai beryglu ei bywyd.

Cafodd dynes arall ei chludo i Ysbyty Stoke gydag anafiadau difrifol, tra bod dau berson arall hefyd wedi eu cludo i Ysbyty Gwynedd ag anafiadau difrifol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ffordd osgoi Y Felinheli yn un ddeuol mewn rhai mannau, a sengl mewn eraill

Roedd Peugeot 208, Audi A3 llwyd tywyll, BMW 1 series, a Skoda Octavia yn rhan o'r digwyddiad.

"Rydw i'n cydymdeimlo'n ddwys gyda theuluoedd y rheiny fu'n rhan o'r digwyddiad trasig hwn," meddai'r Sarjant Emlyn Hughes o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd.

Ychwanegodd fod yr heddlu'n apelio am unrhyw luniau dashcam o'r ffordd rhwng 18:30 a 19:00, "yn enwedig o'r Audi", i gysylltu gyda nhw.

Mae teulu'r ddynes fu farw a'r crwner wedi cael gwybod am ei marwolaeth.