Ymchwiliad i sylwadau caethwasiaeth honedig gan gynghorydd

  • Cyhoeddwyd
Andrew EdwardsFfynhonnell y llun, LDRS
Disgrifiad o’r llun,

Honnir bod y Cynghorydd Andrew Edwards wedi dweud y dylai dynion gwyn gael caethweision du.

Mae'r Blaid Geidwadol wedi dechrau ymchwilio i honiadau fod cynghorydd lleol wedi gwneud sylwadau hiliol am bobl ddu.

Honnir bod y Cynghorydd Andrew Edwards, sy'n aelod o Gyngor Sir Penfro, wedi dweud y dylai dynion gwyn gael caethweision du.

Yn ôl gwrthwynebwyr gwleidyddol, llais Mr Edwards sydd i'w glywed ar recordiad sain o'r sylwadau gafodd ei gyhoeddi ar-lein.

Dywedodd ei fod wedi cyfeirio'r mater at yr ombwdsmon ac na allai wneud sylw pellach.

Cadarnhaodd y Blaid Geidwadol eu bod yn ymchwilio i'r honiadau, ond nad yw wedi ei ddiarddel eto.

Ar y recordiad, gafodd ei gyhoeddi gan wefan newyddion Nation.Cymru, dolen allanol, mae'r siaradwr i'w glywed yn dweud: "Dwi'n meddwl y dylai pob dyn gwyn gael dyn du fel caethwas neu fenyw ddu fel caethwas.

"Does dim byd o'i le ar liw croen, dim ond eu bod nhw'n ddosbarth is na ni bobl wyn, chi'n gwybod."

Dydy hi ddim yn glir pryd na ble gafodd y clip 16 eiliad ei recordio.

'Cyfeirio at Ombwdsmon'

Ni wnaeth Mr Edwards, sy'n cynrychioli ward Prendergast Hwlffordd ar Gyngor Sir Penfro, gadarnhau i BBC Cymru ai ei lais oedd yn y recordiad.

Mewn datganiad dywedodd: "Rwy'n ymwybodol o honiadau difrifol iawn sy'n cael eu gwneud yn fy erbyn.

"Dyma pam rydw i wedi cyfeirio fy hun at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am werthusiad annibynnol.

"Mae bellach yn nwylo arbenigwyr cyfreithiol a'r Ombwdsmon.

"Byddai'n annheg ar y broses i mi wneud sylw nawr."

Cadarnhaodd swyddfa'r Ombwdsmon eu bod wedi derbyn hunan-gyfeiriad, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd ymchwiliad ffurfiol yn cael ei gynnal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Edwards yn gynghorydd Ceidwadol sy'n cynrychioli ward Prendergast yn Hwlffordd, Sir Benfro

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Penfro: "Rydym yn ymwybodol o honiad sy'n cael ei wneud ac wedi cyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon. Byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ar y cyngor, Di Clements, fod Mr Edwards wedi gadael grŵp y blaid ar y cyngor fore Mawrth.

Dywedodd na allai wneud sylw pellach tan fod yr Ombwdsmon wedi adrodd yn ôl.

'Gwarthus'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'r safbwyntiau a fynegir yn y recordiad yn warthus, yn wrthun ac nid ydynt yn cael eu rhannu gan y Ceidwadwyr Cymreig.

"Gan fod y mater yn cael ei ymchwilio, byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach."

Mewn datganiad, dywedodd y grŵp Llafur: "Mae'r safbwyntiau sydd wedi'u cynnwys yn y recordiad hwn yn ffiaidd.

"Bydd pobl yn Sir Benfro, ac yn arbennig, yn ward Prendergast yn Hwlffordd yn cael eu syfrdanu gan y sylwadau gan y sylwadau honedig gafodd eu gwneud gan y Cynghorydd Edwards.

"Does dim lle o gwbl i hiliaeth yn ein cymdeithas, heb sôn am y farn a fynegwyd gan aelod etholedig ar Gyngor Sir Penfro."