Pum munud gyda Tegwen Parry ac Alun Fon Roberts

  • Cyhoeddwyd
Tegwen Parry ac Alun Fon RobertsFfynhonnell y llun, Tegwen Parry ac Alun Fon Roberts

"Mae Cymru yn gyfoethog ei hanes pan ddaw at faterion yn ymwneud â chyfiawnder a throsedd, felly mae'n bwysig ein bod yn gallu trafod y pwnc yn ein hiaith ein hunain."

Dyma pam mae Tegwen Parry ac Alun Fon Roberts wedi cychwyn y podlediad cynta' i drafod troseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r ddau, sy'n dod o Benrhyndeudraeth a Rhyd, wedi bod yn trafod eu theoriau am drosedd ar bodlediad newydd o'r enw Trafod Troseddeg hefo Teg ac Al sy' wedi denu gwrandawyr ar draws y Deyrnas Unedig, a hefyd yn yr Unol Daliaethau, Y Ffindir a Brasil.

Mae Tegwen Parry yn fyfyriwr PhD Troseddeg ac mae gan Alun Fon Roberts ddiddordeb mewn troseddeg ac mae'r ddau yn trafod y pwnc gyda gwesteion ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.

Bu Cymru Fyw'n holi'r ddau.

Beth wnaeth eich ysbarduno i gychwyn podlediad am droseddeg?

Tegwen: Rydw i wedi bod yn astudio troseddeg yn y brifysgol ym Mangor ers 2018, ac yn cychwyn ar fy noethuriaeth mewn 'chydig ddyddiau. Dwi o hyd wedi bod â diddordeb mawr mewn pobl a chymdeithas a sut mae cymunedau yn ymddwyn tuag at ei gilydd.

Wrth wrando ar bodlediadau eraill yn ymwneud â throseddeg, sylweddolais dau beth - nid oedd un yn bodoli yn yr iaith Gymraeg, a hefyd mae'r mwyafrif yn tueddu i drafod llofruddiaethau yn hytrach na agweddau eraill o'r pwnc. Felly ddaru ni sylwi bod bwlch i'w lenwi yn fan hyn.

Alun: Mae 'na amryw o bodlediadau am droseddeg trwy gyfrwng y Saesneg, ond prin iawn yw'r cyfleoedd i bobl drafod y pwnc yn y Gymraeg. Bron ei fod yn cael ei weld fel wbath Seisnig neu Americanaidd ei natur, ond tydy hynny ddim yn wir mewn gwirionedd. Mae Cymru yn gyfoethog ei hanes pan ddaw at faterion yn ymwneud â chyfiawnder a throsedd, felly mae'n bwysig ein bod yn gallu trafod y pwnc yn ein hiaith ein hunain.

Dyma'r podlediad cyntaf am droseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg - pam mae'n bwysig i drafod y maes yma yng Nghymru?

Tegwen: Fel sy'n cael ei drafod ym Mhennod 3 o'r podlediad, bu trafodaeth yn ddiweddar am ddatganoli'r system droseddol a chyfiawnder i Gymru. Yn bersonol dwi'n gweld Cymru yn debyg i wledydd fel Y Ffindir a Norwy, lle mae pwyslais mawr ar ymaddasiad carcharwyr, a hefyd eu hatal nhw rhag cyrraedd carchar yn y lle cyntaf.

Yn ychwanegol nid oes carchardy i ferched yn Nghymru o gwbwl, a tydi hyn ddim yn deg. Mae'n bwysig bod pobl Cymru yn ymwybodol o hyn. Hefyd mae'r drafodaeth am ddatganoli yn cynnwys lleihau y nifer o garcharorion yng Nghymru, tra mae Lloegr yn brysur adeiladau mwy a mwy ohonynt er mwyn creu arian i'r economi.

Alun: Y gobaith yw y bydd y podlediad yma yn sbarduno trafodaethau ymysg ffrindiau, cydweithwyr, teuluoedd ac unrhywun arall sydd yn ymddiddori mewn trosedd a throseddeg, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg gan annog eraill i ddatblygu gofod tebyg i drafod materion yn ymwneud â throsedd yma yng Nghymru a thu hwnt.

Beth yw eich gobeithion am y podlediad?

Tegwen: I fi, codi ymwybyddiaeth o'r pwnc gydag eraill, yn enwedig y rhai sy'n dymuno ei astudio fel pwnc academaidd. Chwalu'r mytholeg tu ôl i'r pwnc, sef bod mwy iddo na serial killers a llofruddiaethau. Mae'n bwnc aml-ddisgyblaethol a dyna sy'n ei wneud mor ddiddorol.

Alun: Mae troseddeg yn faes eang iawn. Mae 'na ddelwedd gamarweiniol mai astudiaeth o serial killers ydy troseddeg. Mae 'na fai ar raglenni teledu am hyrwyddo y cysyniad yma. Er fod troseddeg yn cyffwrdd ag achosion o dor-cyfraith eithafol fel llofruddiaethau, mae 'na lawer mwy i droseddeg na'r hyn a bortreadir ar y teledu.

Mae o'n ymwneud ag agwedd pobl at y gyfraith, sut mae cyfraith a gwleidyddiaeth yn gor-gyffwrdd, a sut mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar gymhelliant unigolion i gyflawni trosedd, ac wrth gwrs y system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd.

Ydy chi'n mynd i edrych ar unrhyw straeon am achosion enwog o drosedd yng Nghymru, fel mae nifer o bodlediadau yn gwneud ar hyn o bryd?

Tegwen: Ydan. Fydd y bennod nesaf, rhif 4, yn trafod atgofion pobl lleol o'r llofruddiaethau Moors Murders yn ardal Manceinion yn y 60au gan Ian Brady a Myra Hindley. Trafod yr ochr gymdeithasol, seicolegol a biolegol am y ddau, er mwyn ceisio darganfod pam y digwyddodd y fath beth. Hefyd y ffaith mai Cymro oedd bargyfreithiwr amddiffyn Ian Brady a Myra Hindley, sef y cyn Aelod Seneddol Emlyn Hooson o Sir Ddinbych.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd Hooson

Alun: 'Da ni wedi bod yn trafod ambell i stori true crime gan feddwl eu cynnwys yn y podlediad. Ond 'da ni yn trio osgoi mynd ar ôl y petha sensationalist fel petai, gan ffocysu ar faterion trosedd llai amlwg e.e. protestiadau gwleidyddol, y system gyfiawnder, profiad carcharorion. Maen nhw yr un mor bwysig ond ddim yn cael hanner cymaint o sylw.

Oes yna un stori trosedd yng Nghymru sy'n diddori'r ddau ohonoch?

Tegwen: I fi, dwi'n credu mai llofruddiaethau Peter Moore ar hyd ogledd Cymru sy'n fy niddori, gan eu bont wedi cymryd lle o fewn tafliad carreg i'n hardal ni, a roedd o hefyd yn berchen ar adeilad ym Mlaenau Ffestiniog, a pwy a wyr be' arall fysa 'di digwydd cyn iddo ei ddal. Wrth gwrs roedd ganddo hefyd dwrna Cymraeg sef Dylan Jones o Abergele, a roedd ei lyfr o, Man in Black, yn hynod o ddiddorol, yn adrodd safbwynt Dylan yn gorfod amddiffyn llofruddwyr.

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Rhys Jones

Beth ydy chi wedi ei ddysgu o gychwyn y podlediad?

Tegwen: Bod pobl yn gwrando arno o bob cwr o'r byd. Mae gennym wrandawyr ar draws y Deyrnas Unedig, a hefyd yn yr Unol Daliaethau, Y Ffindir a Brasil! Mae hi'n anhygoel meddwl bod yna ddysgwyr/siaradwyr Cymraeg yn y gwledydd pell yma yn gwrando ar ein podlediad ni.

Alun: Un o'r petha' dwi'n angerddol amdano yw'r angen dybryd i ddatganoli pwerau cyfiawnder i Gymru, yn hytrach na gorfod derbyn deddfwriaethau cyfiawnder gormesol llywodraeth San Steffan sydd, yn fy marn i, yn methu a diwallu anghenion cyfiawnder penodol Cymru.

Y gwir amdani ydy fod gan yr Alban, Iwerddon, Llundain a hyd yn oed Manceinion naill ai reolaeth lwyr, neu rywfaint o reolaeth dros gyfiawnder, tra fod Cymru yn cael ei thrin fel atodiad i Loegr. 'Da ni wedi edrych ar hyn yn y podlediad, a dwi'n meddwl ei fod yn bwnc sydd am godi eto wrth i'r Police and Crime Bill ddod yn weithredol.

Ffynhonnell y llun, Tegwen Parry

Ydych chi'n gweithio'n dda gyda'ch gilydd?

Tegwen: Ydan, 'da ni yn ffrindiau gorau ers sawl blwyddyn ac yn dod o'r un ardal, Penrhyndeudraeth a Rhyd. Rydym hefyd yn rhannu'r un farn am sawl agwedd o bolisiau gwleidyddol ym ymwneud â chymdeithas a throseddeg.

Alun: 'Da ni yn gweithio'n reit dda efo'n gilydd chwarae teg. Mae materion cyfiawnder a throsedd yn rai sy'n mynd a sylw y ddau ohonom, felly 'da ni byth yn brin o bynciau i drafod. 'Da ni'n trafod y pethau yma fel arfer dros baned, wrth fynd am dro neu yn y car, felly mae'n awyrgylch gwbl naturiol - tydi o ddim yn staged o gwbl.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig