Cwmnïau tramor yn cofrestru yng Nghymru i osgoi treth

  • Cyhoeddwyd
Mr Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dylan Davies fod y profiad wedi bod yn hunllefus

Mae dyn o Geredigion wedi galw am dynhau'r rheolau sydd yn ymwneud â threth ar werth (TAW).

Daw ar ôl i 11,000 o gwmnïau ddefnyddio cyfeiriad ei fflat yng Nghaerdydd i gofrestru ar gyfer y dreth, er nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad gyda'r cyfeiriad mewn gwirionedd.

Roedd gan 2,356 o'r cwmnïau yma ddyledion treth, yn ôl Gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC).

Ac roedd 70% yn masnachu ar farchnadoedd ar-lein fel Amazon, gyda nifer fawr o'r busnesau o China.

Ym mis Mawrth fe ddatgelodd rhaglen X-Ray BBC Cymru bod Dylan Davies yn derbyn 580 o lythyrau yr wythnos i'w fflat yng Nghaerdydd.

Roedd y llythyrau yn gofyn am daliadau treth ar werth ar nwyddau oedd wedi eu gwerthu i gwsmeriaid Prydeinig trwy gyfrwng marchnadoedd ar-lein, fel Amazon, gan gwmnïau o China.

Erbyn hyn, mae'n dweud ei fod wedi derbyn rhai miloedd o lythyrau.

Roedd cyfanswm y dyledion i HMRC dros £500,000, yn ôl llythyrau a welwyd gan y rhaglen.

Fe gysylltodd Mr Davies gyda'r heddlu am y mater ac fe ysgrifennodd ei gyfreithiwr at HMRC ddwywaith.

Ar ôl i'r mater gael ei drafod gan X-Ray fe wnaeth HMRC ymyrryd er mwyn atal beilïaid rhag meddiannu eiddo Mr Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dylan Davies yn pryderu bod eraill yn cael yr un profiad ag ef

Mewn cyfweliad lleisiodd Mr Davies ei syndod nad oedd neb wedi sylwi ar yr holl lythyron oedd yn cael eu danfon i'w gyfeiriad.

"O'n i'n meddwl ma' bownd o fod rhywun yn mynd i bigo fe lan cyn bo hir ond oedd neb yn pigo fe lan," meddai.

"Mae wedi bod bach o nightmare rili. Os ti'n dihuno lan yn ganol nos ti ddim yn mynd nôl i gysgu achos ti just yn meddwl am y ramifications achos mae'n beth mor fawr.

"Ma'r ffigyrau mor fawr mae'n anodd i gredu bod e mor rhwydd i rywun i 'neud 'na.

"Fi'n credu bod e'n rhwyddach heddi' i agor cwmni newydd a registro am VAT na yw e i fynd i gael bus pass."

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn pryderu bod eraill yn cael yr un profiad.

"All rhywun fod yn ishte gatre, rhywun eitha' vulnerable, 'mla'n mewn oedran, a ma'r post yn dod trwy'r drws bob dydd, ofnus beth i 'neud, pwy i siarad gyda," dywedodd.

"Falle bydd pobl yn gweld bod e yn talu ffordd i nhw i ddod mas, i siarad 'da rhywun, ond pwy ydych chi'n siarad 'da?

"O'n i ffeili cael unrhyw sylw gyda HMRC, sgwennodd fy nghyfreithiwr iddyn nhw ddwywaith a gath e ddim ateb."

Cwmnïau tramor yn ceisio osgoi treth

Fe gyflwynwyd deddfwriaeth newydd ym mis Ionawr sydd yn golygu bod marchnadoedd ar-lein yn gorfod talu TAW ar nwyddau sydd wedi eu gwerthu trwy'r platfformau gan fusnesau tramor.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Y Fonesig Meg Hillier mae'r achos yn un sy'n "peri pryder mawr".

Ychwanegodd ei fod yn ymddangos bod cwmnïau o China yn defnyddio cyfeiriadau ym Mhrydain er mwyn osgoi talu TAW.

Mewn llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn San Steffan, fe wnaeth pennaeth HMRC, Jim Harra, gyfaddef nad oedd y corff treth wedi cwestiynu pam fod miloedd ar filoedd o fusnesau wedi eu cofrestru o dan gyfeiriad fflat Mr Davies.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Lake AS ei fod yn credu fod yr achos yn "codi cwestiynau eitha' difrifol"

Roedd y llythyr hefyd yn cadarnhau nad oes angen prawf o gyfeiriad rhywun cyn iddynt allu cofrestru cwmni ar gyfer TAW o dan y cyfeiriad hwnnw.

Mae disgwyl i Mr Harra gael ei holi gan aelodau o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fis nesaf ac mae'n bosib y bydd y Swyddfa Archwilio hefyd yn cynnal ymchwiliad.

'Codi cwestiynau difrifol'

Dywedodd Ben Lake, Aelod Sneddol Ceredigion: "Mae dyn yn rhyfeddu braidd nad oedd yr awdurdodau yn cymryd y peth o ddifrif o'r cychwyn cyntaf, felly rhywfaint o syndod a siom, ond hefyd wedyn bydden i falle yn lico gweld bach fwy o weithredu ers iddyn nhw ddechre edrych ac ymchwilio i'r peth.

"Dwi'n credu bod e'n codi cwestiynau eitha' difrifol ar sut ry'n ni'n monitro y gyfundrefn treth ar werth a faint arall o esiample sydd ar draws y wlad o achosion tebyg.

"Yn syml iawn dwi'n credu fe ddylen nawr edrych ar newid y gyfraith, a bod rhaid i chi brofi eich bod chi yn gweithredu a gyda'r hawl i weithredu allan o gyfeiriad penodol.

"Mae'n synnu dyn braidd bod ddim rhaid ar hyn o bryd brofi bod gyda chi unrhyw gysylltiad i adeilad... ond dwi'n credu dylen ni fod yn cyflwyno'r gofyn 'na ar bobl."

Dywedodd llefarydd ar ran HMRC: "Rydym yn adolygu ein prosesau gweithredol ar gyfer rheoli niferoedd mawr o newidiadau cyfeiriad, gan gynnwys deall unrhyw wendidau yn ein systemau sy'n gysylltiedig efo'r ymddygiad yma."

Pynciau cysylltiedig