Côr i ganu geiriau Crist ar y Groes yn Gymraeg am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Bydd perfformiad cyhoeddus cyntaf Saith Air y Groes yn digwydd ddydd Gwener yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor.
Bydd y perfformiad cyntaf erioed gan gôr eglwys yn y Gymraeg o'r geiriau y credir i Iesu Grist eu dweud ar y Groes yn digwydd yn Eglwys Gadeiriol Bangor ar ddydd Gwener y Groglith.
Mae'r geiriau wedi eu gosod i gerddoriaeth gan gyfansoddwyr ers 500 mlynedd, ond nid yn y Gymraeg.
Fe benderfynodd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor nodi'r Pasg eleni gyda darn cerddorol 'Saith Air y Groes'.
Mae'n rhan o ymdrech i geisio denu mwy o siaradwyr Cymraeg i'r eglwys.
Geiriau o Feibl William Morgan
Yr Is-Ddeon Sion Rhys Evans fu'n arwain y gwaith: "'Dan ni fel eglwys wedi bod ychydig yn esgeulus o'n hetifeddiaeth Gymraeg a Chymreig ac mae'n cerddoriaeth gorawl ni wedi bod yn Saesneg ac yn Seisnig yn rhy aml.
"Felly dyma gyfle eleni i fuddsoddi yn ein hetifeddiaeth Gymraeg ac i gael y geiriau yma o Feibl William Morgan wedi eu gosod a'u canu yn fan hyn am y tro cyntaf."

Y cyfansoddwr o Sir Benfro, Alex Mills, wnaeth osod y geiriau i'r gerddoriaeth
Y cyfansoddwr o Sir Benfro, Alex Mills, gafodd y dasg o osod y geiriau Cymraeg i gerddoriaeth.
Fe glywodd y darn yn fyw am y tro cyntaf wrth wrando ar y côr yn ymarfer yn y Gadeirlan nos Fercher.
"Ro'n i eisiau angori'r darn yng Nghymru ac ym Mangor os oedd yn bosib," meddai. "Felly des i wrando ar y côr yn canu dros y Nadolig, cyn imi ddechrau ysgrifennu.
"Fe helpodd y Gadeirlan fi wedyn gydag ymchwil i wneud yn siŵr 'mod i'n cael dylanwadau o hanes y Gadeirlan ac o lawysgrifau canoloesol sy'n cynnwys cerddoriaeth."

Mae cynghanedd gan y prifardd Sion Aled wedi ei gosod ar fwrdd yr allor
Yn ogystal â'r gerddoriaeth, mae dodrefn newydd yn dathlu cysylltiadau Cymreig lleol.
Mae bwrdd allor newydd ac arno'r gynghanedd gan y Prifardd Sion Aled: "O'r graig las daw'n fras ddyfrhau holl lynnoedd gloyw'n llannau."
'Anodd ond hyfryd'
Mae'r cyfansoddiad cerddorol 'Saith Air y Groes' wedi creu argraff ar aelodau'r côr.
"Mae'n anodd! Ond yn hyfryd!" dywedodd Sarah Jones.
"Pan 'dach chi wedi ei dysgu hi mae'n iawn, ond ar yr edrychiad cyntaf, ofnadwy.

Fe fydd y perfformiad nos Wener yn "bleser go iawn" yn ôl un o aelodau'r côr, Sarah Jones
"Ond does 'na ddim byd yn y Gymraeg fel y darn yma. Mae'r darn yn anhygoel.
"Mae o'n rhywbeth modern. Fedrwn ni ddim cael y cyfle i wneud yn un lle arall."
"Mae'n bleser go iawn i'w wneud o. Dwi'n edrych ymlaen gymaint at nos Wener."
Bydd perfformiad llawn cyhoeddus cyntaf 'Saith Air y Groes' yn digwydd am 18:00 Ddydd Gwener y Groglith, yng Nghadeirlan Deiniol Sant, Bangor.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2023