Aberystwyth: Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng bws a fan
- Cyhoeddwyd
![A44 ger Capel Bangor](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7CE1/production/_129296913_screenshot2023-04-06162356.jpg)
Fe gafodd ffordd yr A44 ei chau rhwng Llanbadarn Fawr a Chapel Bangor brynhawn Iau
Mae dau o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng bws a fan yn Aberystwyth.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 14:30 ddydd Iau i ffordd yr A44 ger Capel Bangor.
Bu'n rhaid i ddau deithiwr gael eu tynnu o'r bws oherwydd eu bod yn sownd a dywedodd y gwasanaeth tân achub eu bod wedi eu cludo i'r ysbyty.
Fe adawodd 10 o deithwyr â mân anafiadau yn ddiogel cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y ffordd wedi ei chau yng nghylchfan Gelli Angharad a chyffordd Ystad Glanyrafon.
Ychwanegon nhw fod y bws a'r fan yn y broses o gael eu symud.