Bangor: 10 mis o garchar i yrrwr am ladd seiclwr
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr wedi cael ei garcharu am 10 mis am achosi marwolaeth seiclwr o'r Felinheli mewn gwrthdrawiad yn 2021.
Bu farw Daniel Owain Evans, 45, yn dilyn gwrthdrawiad ar Allt y Faenol ger Penrhosgarnedd, Bangor ar 9 Rhagfyr 2021.
Cafodd Richard Owen Gardner, 40 o Hen Golwyn, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.
Fe gafodd Gardner hefyd ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd a phum mis, a bydd yn rhaid iddo sefyll prawf estynedig cyn cael gyrru eto.
Roedd Mr Evans yn teithio i fyny'r allt ar ei feic pan gafodd ei daro gan fan VW Crafter oedd yn cael ei yrru gan Gardner.
Cafodd Mr Evans ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ond bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau.
Yn dilyn y ddedfryd dywedodd y Sarjant Liam Ho o Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad gyda theulu Mr Evans, sydd wedi dioddef dinistr na allwn ei ddychmygu.
"Nid oes unrhyw ddedfryd a all fyth gymryd lle'r twll a adawyd yn eu bywydau, ond rydym yn gobeithio y bydd pasio'r ddedfryd hon yn fodd i atgoffa pob gyrrwr y gall penderfyniad i golli canolbwyntio am eiliad gael canlyniadau dinistriol."