Gêm gyfartal i Forgannwg ar ddechrau'r tymor newydd
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Forgannwg fodloni ar gêm gyfartal yn erbyn Sir Gaerloyw i roi cychwyn ar dymor newydd Adran Dau Pencampwriaeth y Siroedd.
Morgannwg oedd â'r fantais wedi'r batiadau cyntaf, ar ôl cyrraedd cyfanswm o 404 mewn ymateb i sgôr yr ymwelwyr, sef 165.
Roedd hynny diolch i berfformiadau Billy Root (117 heb fod allan), Kiran Carlson (106) ac Edward Byrom (81).
Ond fe darodd Sir Gaeloyw yn ôl - fe sgoriodd y batiwr o Awstralia Marcus Harris 148 ac erbyn dechrau diwrnod olaf yr ornest roedden nhw 134 o rediadau ar y blaen.
Roedd Graeme van Buuren ar 110 heb fod allan erbyn iddyn nhw ddod â'u hail fatiad i ben ar 569 am saith wiced.
Roedd angen i Forgannwg sgorio 331 felly gydag amser ar gyfer hyd at 48 o belawdau.
Erbyn yr egwyl de, roedden nhw eisoes wedi colli tair wiced, ac ond wedi sgorio 38 o rediadau.
Fe lwyddon nhw i gyrraedd 110-3 wedi 37 o belawdau, gyda Root (39) a Byrom (36) yn dal ar y maes.
Ond doedd dim digon o amser i sicrhau buddugoliaeth ac felly cyfartal roedd hi yng Ngerddi Sophia, er i Forgannwg sicrhau 12 o bwyntiau - pedwar yn fwy na'u gwrthwynebwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2022