Dim cynlluniau i ymddeol gan lanhawr trên 80 oed Caerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
William Gwyn ThomasFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae William Gwyn Thomas wedi bod yn glanhau trenau ers 25 mlynedd bellach

Mae glanhawr trên 80 mlwydd oed o Gaerfyrddin yn dweud ei fod wrth ei fodd gyda'i swydd ac nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i ymddeol.

Roedd William Gwyn Thomas arfer fod yn ffermwr yn Llambed, Ceredigion, ond mae nawr wedi bod yn glanhau trenau yng ngorsaf Caerfyrddin ers 25 mlynedd.

Mae Gwyn, fel mae'n well ganddo gael ei adnabod, yn gweithio fel rhan o dîm i lanhau rhwng 18 a 26 cerbyd pob nos.

"Doeddwn i ddim yn disgwyl y byddwn yn 80 oed ac yn dal i weithio ond rydw i wrth fy modd a fydda' i ddim yn rhoi'r gorau iddi nes y bydda i'n barod i wneud hynny, ddim cyn hynny," dywedodd.

Fe wnaeth Gwyn - sydd erbyn hyn yn dad-cu ac yn hen dad-cu - ymuno a'r tîm glanhau yn y 1990au hwyr.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwyn yn gweithio tan oriau mân y bore, gyda'i shifft rhwng 19:30 a 02:30

Dywedodd ei fod yn credu taw'r rhesymau tu ôl i'w hir oes yw "bwyta'n dda, peidio ag yfed dim byd cryfach na shandi a rhoi'r gorau i 'smygu".

Mae Gwyn yn gweithio rhwng 19:30 a 02:30 yn glanhau pob rhan o'r cerbydau, gyda'r shifft anoddaf ar ddydd Sadwrn pan gall y toiledau fod yn "heriol".

I Gwyn, yr unig beth i'w gwneud felly yw bwrw ati.

"Mae'n rhwystredig ond does dim pwynt cwyno - dyna naws y swydd ac mae'n rhaid dal ati. Mae'n rhaid cadw'r cerbydau yn lân ar gyfer ein cwsmeriaid - dyna ein dyletswydd."

Dywedodd Wendy Jones, rheolwr gweithrediadau glanhau Trafnidiaeth Cymru a James Nicholas, rheolwr Gorsaf Caerfyrddin fod Gwyn yn "un o hoelion wyth" yr orsaf.

"Mae safon y gwaith y mae Gwyn yn ei wneud nos ar ôl nos yn enghraifft wych o rywun sy'n ymfalchïo yn eu gwaith," meddai'r ddau.

"Hoffem ddiolch i Gwyn am bopeth a wna a dymuno pen-blwydd hapus iawn iddo."

Pynciau cysylltiedig