Cyhuddo dyn o dreisio yn ardal Treganna, Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Admiral
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddod yr ymosodiad rhyw honedig tu allan i dafarn yr Admiral

Mae dyn 66 oed wedi cael ei gyhuddo o dreisio yn ardal Treganna yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ddydd Gwener.

Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad rhyw honedig wedi digwydd tu allan i dafarn yr Admiral - yr Admiral Napier gynt - ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng hanner nos a 01:00 ar 14 Ebrill.

Mae dyn 66 oed o ardal Glan-yr-afon wedi cael ei gyhuddo o dreisio, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod yn dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd, un ai ar droed neu mewn cerbyd.

Pynciau cysylltiedig