Dyn wedi marw dri mis ar ôl cael ei daro gan gar

  • Cyhoeddwyd
Philip JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Philip Jones wedi bod yn cael triniaeth wedi anaf difrifol i'w ymennydd

Mae dyn o Gaerdydd wedi marw o'i anafiadau ar ôl cael ei daro gan gar yn y ddinas dri mis yn ôl.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod Philip Jones, 74, wedi bod mewn gwrthdrawiad â char yn ardal Llanedern ar ddydd Gwener, 6 Ionawr eleni.

Bu farw Mr Jones, oedd yn dod o Dredelerch, Caerdydd, ar 11 Ebrill yn Ysbyty Athrofaol Cymru, lle'r oedd yn derbyn triniaeth am anaf i'w ymennydd.

Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad, ac yn apelio ar unrhyw dystion neu sydd â lluniau dashcam, neu a welodd y ffordd yr oedd y car Ford Fiesta llwyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw.

Mewn teyrnged iddo dywedodd teulu Mr Jones "na fedr geiriau fynegi pa mor dorcalonnus yr ydym".

"Roedd Phil yn gymeriad adnabyddus yn ei gymuned am ei synnwyr digrifwch, ei hoffter o sgwrsio, a'i barodrwydd i helpu unrhyw un gydag unrhyw anghenion.

"Hoffem ddiolch i staff Ysbyty Athrofaol Cymru am eu gofal arbennig."

Pynciau cysylltiedig