Glaw yn helpu Morgannwg i gêm gyfartal yn erbyn Durham

  • Cyhoeddwyd
Michael Neser o Morgannwg yn bowlioFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y gêm i ben gyda 22 o belawdau ar ôl i'w chwarae

Bu Durham yn agos at fuddugoliaeth dros Forgannwg cyn i law trwm ddod a diwedd i'r gêm gyda 22 o belawdau ar ôl i'w chwarae.

Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf roedd Durham ar 382-6, gyda pherfformiadau da gan Ollie Robinson (73), Michael Jones (69) a Scott Borthwick (59).

Bu dim chwarae ar yr ail ddiwrnod, gyda'r glaw yn cyrraedd cyn i'r gêm ddechrau.

Roedd angen 68 o rediadau o 14 o belawdau ar Durham er mwyn sicrhau'r uchafswm o bwyntiau batio.

Diolch i berfformiad cryf gan Brydon Carse mi lwyddon nhw i wneud hynny, gan orffen gyda sgôr o 471-9.

Collodd Morgannwg Eddie Byrom i bêl gyntaf Paul Coughlin, tra cafodd David Lloyd ei fowlio am 31 yn fuan cyn yr egwyl ginio.

Cafodd Ben Raine wicedi Marnus Labuschagne (17) a Billy Root (1), y ddau ohonynt goes o flaen wiced, gan adael Morgannwg ar 153-5 ar ddiwedd y trydydd diwrnod.

Ni chafodd Morgannwg y dechrau gorau i'r pedwerydd diwrnod gyda Chris Cooke allan am 32, Dan Douthwaite yn sgorio 12 a Michael Neser coes o flaen wiced am 1.

Gwnaeth Kiran Carlson yn dda i gyrraedd ei gant o 121 pêl cyn cael ei ddal gan y bowliwr, Trevaskis, am 119.

Sgoriodd Morgannwg 305 yn y batiad cyntaf, ac roeddent ar 104-6 yn yr ail fatiad pan ddaeth y chwarae i ben oherwydd y glaw.

Felly cyfartal oedd hi yng Ngerddi Sophia, gyda Morgannwg yn sicrhau 9 o bwyntiau, tra bod Durham yn cael 13.

Pynciau cysylltiedig