Carchar am geisio gwthio menyw o flaen trên tanddaearol

  • Cyhoeddwyd
Arthur HawrylewiczFfynhonnell y llun, Heddlu Trafnoidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arthur Hawrylewicz ei ddedfrydu am geisio llofruddio ac am geisio achosi niwed corfforol difrifol

Mae dyn 42 oed o Gaerdydd wedi cael dedfryd o 10 mlynedd o garchar am geisio lladd menyw ddieithr mewn digwyddiad ar reilffordd danddaearol Llundain.

Plediodd Arthur Hawrylewicz yn euog i gyhuddiad o geisio llofruddio Maria Osifeso, oedd yn 22 ar y pryd, wrth iddi deithio gyda ffrindiau i garnifal Notting Hill ar 29 Awst y llynedd.

Roedd y diffynnydd wedi rhoi ei freichiau'n dynn am ei chanol mewn ymgais i'w gwthio o flaen trên y Tiwb oedd yn tynnu i mewn i orsaf King's Cross.

Dywedodd y barnwr wrth ei ddedfrydu: "Mae'n glir o'r dystiolaeth eich bod wedi ceisio lladd eich hun y diwrnod hwnnw ond does dim eglurhad pam wnaethoch chi benderfynu ceisio lladd person dieithr diniwed."

Clywodd Llys Y Goron Mewnol Llundain ei fod wedi ceisio siarad gyda Ms Osifeso, a hithau wedi ei anwybyddu, cyn iddo gydio ynddi ar blatfform gorsaf King's Cross tua 13:15 y prynhawn.

"Fe adawodd ei thraed y llawr ac fe gafodd ei siglo i'r chwith... mewn ymgais i'w rhoi ar y trac o flaen trên oedd yn cyrraedd yr orsaf," meddai bargyfreithiwr yr erlyniad, Suki Dhadda.

Llwyddodd ei ffrindiau i'w hachub, gan orfodi Hawrylewicz i'r llawr, ac wrth iddo symud fe darodd ei ben yn erbyn y trên nes roedd yn anymwybodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar blatfform tanddaearol King's Cross

Mewn datganiad i'r llys, fe ddywedodd Ms Osifeso bod y digwyddiad wedi ei llorio.

Mae hi'n cwestiynu beth fuasai wedi digwydd iddi petai ei ffrindiau heb fod yno, neu petai wedi bod yn sefyll yn agosach at ymyl y platfform.

"Mwyaf tebyg y buaswn i wedi marw a fe fuasai fy nheulu'n galaru wedi iddyn nhw golli merch," dywedodd. "Mae'n drawmatig eithriadol i feddwl pa mor agos ddes i at farw."

Ychwanegodd ei bod yn dioddef "pryder llethol" nawr wrth deithio ar ben ei hun ar drên tanddaearol.

'Difaru bob diwrnod'

Clywodd y llys bod Hawrylewicz, sy'n hanu o Wlad Pŵyl, wedi byw yn y DU, gan weithio yn y diwydiant adeiladu, am 15 mlynedd a'i fod yn y ddinas am resymau gwaith.

Roedd teulu'r tad i ddau wedi dychwelyd i Wlad Pŵyl fis Awst 2021, ac roedd negeseuon ganddo'n awgrymu ei fod yn teimlo'n isel ynghylch ei fywyd.

Dywedodd wrth yr heddlu wedi'r ymosodiad ei fod wedi yfed sawl peint o gwrw a litr o fodca o flaen llaw, ac wedi ystyried lladd ei hun.

"Mae'n difaru'r hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw, bob diwrnod," dywedodd Alexia Nicol, bargyfreithiwr yr amddiffyn.

Roedd ei chleient, meddai - "dyn teulu gweithgar" - yn cydnabod "y gwir ofid" yr achosodd i Ms Osifeso, a'i fod eisiau "ymddiheuro iddi".

Ychwanegodd ei fod "mewn cyflwr dryslyd ac anobeithiol" o ganlyniad "ei sefyllfa emosiynol, yr yfed a phrysurdeb y platfform".

Dywedodd y Barnwr Benedict Kelleher y bydd yn rhaid i Hawrylewicz, oedd yn byw yn ardal Grangetown, Caerdydd, dreulio hyd at ddau draean o'r ddedfryd dan glo.