Pobl o Gymru'n poeni am eu teuluoedd yn Sudan
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Gaerdydd wedi dweud bod ei theulu yn Sudan yn gallu "arogli cyrff y meirw yn y stryd" wrth iddyn nhw geisio ffoi o'r wlad.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dechrau hedfan dinasyddion Prydeinig o'r wlad yn dilyn brwydro ffyrnig rhwng gwahanol luoedd arfog yno.
Dywedodd Nesrin El-Haj ei bod wedi bod yn "isel iawn" ers iddi golli cysylltiad gyda'i mam a'i chwiorydd.
"Mae'r rhyfel mor enfawr. Mae sŵn arfau trwm, ffrwydradau a bwledi wedi codi ofn enfawr arnyn nhw," meddai.
'Dim trydan, dim bwyd'
Dyw hi bellach ddim wedi clywed gan unrhyw deulu na ffrindiau yn Sudan ers deuddydd, ac mae hi'n gobeithio y daw cadarnhad yn fuan eu bod yn ddiogel.
"Does ganddyn nhw ddim trydan, mae 'na ddiffyg bwyd, diffyg gwasanaethau sylfaenol, dŵr a thriniaeth iechyd," meddai Nesrin ar BBC Radio Wales.
"Mae hi mor anodd i fi oherwydd rydw i wedi colli cysylltiad gyda nhw, ac wedi teimlo'n isel iawn, yn stressed iawn."
Mae myfyriwr yn Abertawe hefyd wedi dweud ei fod yn poeni am ei deulu, wrth i'w fam a'i dad-cu geisio ffoi rhag y brwydro.
Dywedodd Salah El-Khalifa fod ei fam, sy'n ddinesydd Prydeinig, yn ceisio cyrraedd Saudi Arabia gyda'i thad 96 oed, sy'n wael.
Ychydig iawn o gyswllt y mae wedi'i gael gyda hi am ei bod yn poeni y byddai modd dilyn ei lleoliad gyda signal ffôn.
'Ychydig iawn' o gymorth
Dywedodd Salah mai "ychydig iawn" o gymorth sydd wedi bod gan y Swyddfa Dramor.
Yn ôl Salah, y cyngor i'w deulu i ddechrau oedd i "aros dan do a pheidio symud".
Ond dywedodd nad yw'n credu fod swyddogion yn y DU yn deall y sefyllfa, gan fod hynny "ddim yn opsiwn am na fyddai'n sicrhau eu diogelwch".
"Ers i'r awyrennau ddechrau a bod cynllun ar waith gan y llywodraeth i gael dinasyddion oddi yno, mae'r cyswllt gyda'r Swyddfa Dramor wedi gwella, ond ychydig iawn sydd yna o hyd," meddai.
Nos Fawrth fe wnaeth Mr Sunak amddiffyn y ffordd mae'r llywodraeth yn ceisio cael dinasyddion Prydeinig o'r wlad, yn dilyn beirniadaeth fod y Swyddfa Gartref yn methu'r rheiny sydd methu gadael Khartoum.
"Mae'r sefyllfa yn Sudan yn gymhleth ac yn newid yn gyson, ac roedden ni eisiau sicrhau fod gennym brosesau ar waith sy'n mynd i weithio, ac sydd am fod yn ddiogel ac effeithiol," meddai.
Dywedodd fod y llywodraeth wedi cysylltu â dros 1,000 o ddinasyddion Prydeinig yn Sudan am y cynlluniau i adael, ac y bydd "nifer yn rhagor" o awyrennau yn gadael ddydd Mercher.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn "monitro'r sefyllfa yn agos ac rydym mewn cyswllt gyda'r Swyddfa Dramor wrth iddyn nhw gludo pobl yn ôl i'r Deyrnas Unedig".