Y gŵr dall a'i gampweithiau pren
- Cyhoeddwyd
Er fod Gwilym Owen o Borthmadog wedi ei gofrestru yn ddall ers 1979, dechreuodd ar hobi newydd yn ystod y cyfnod clo, gan gychwyn olrhain stori ei fywyd drwy greu gampweithiau o bren.
Mae nifer ohonynt wedi eu selio ar orffennol Gwilym, fel mae'r saer yn dweud mewn sgwrs gyda Shân Cothi ar Bore Cothi: "Dwi'n neud rhyw botiau bach ac ati... ar ôl symud i Port (tair mlynedd yn ôl) 'nes i ddechrau meddwl am waith coed a 'nes i feddwl, beth am neud petha' oedd yn fy mywyd i felly?
"Yn Prenteg pan oedden ni'n blant oedd gyda ni dryc bach - oeddan ni'n neud coetshys ein hunain a dod lawr y rhiw ar wib. 'Nes i benderfynu 'neud hynny i dechrau a wedyn neud pob dim sy' wedi bod yn fy mywyd i."
Roedd Gwilym yn gallu gweld fel plentyn yn cael ei fagu ym Mhrenteg: "Dwi'n un o chwe o blant a dim ond fi sy' wedi cael RP - Retinitis Pigmentosa - mae'n dechrau efo night blindness ac mae'r golwg yn cilhau yn ofnadwy fel mae amser yn mynd yn ei flaen.
"O'n i o gwmpas 25 oed ac wedi gwaethygu'n ofnadwy, bues i at y doctor, oedd y doctor ddim yn cymryd lawer o sylw arna'i."
Sioc
"Ddaru tad y wraig, Gwyneth, mynd efo fi i Gaernarfon at optegydd. Ges i fy ngweld gan fachgen ifanc a fo ddaru ddarganfod y peth ar fy llygada' i ac o'n i'n 27 oed cyn i neb wybod fod o arnaf i."
Erbyn hyn mae'r cyflwr wedi effeithio ar ei glyw hefyd.
Byd gwaith
Ar ôl i Gwilym adael Ysgol Eifionydd yn 15 oed aeth i weithio ar ffermydd cyfagos ac yna ymuno gyda'r Cyngor Sîr 'nes i'w olwg waethygu ymhellach. Cafodd waith wedi hynny yn adeiladu cloddiau yn y maes carafanau lleol.
Er nad yw wedi cael unrhyw hyfforddiant fel saer, roedd yn mwynhau gweithio gyda'i ddwylo: "'Nes i fwynhau o'n fawr iawn.
"Dwi wedi cael dim hyfforddiant o waith coed ond ges i'r fraint o gael dau benwythnos yn mynd i goleg Hywel Harries yn Aberhonddu a chael gwersi yno am garddio'n ddall. Oedd o'n brofiad ac yn help i fi ac o'n i'n gallu garddio'n ddall."
Creu
Yn ogystal â garddio roedd Gwilym yn mwynhau pysgota tra roedd yn gallu er fod ei olwg yn pylu.
Yna yn y cyfnod clo fe drodd ei law at waith coed. Mae ganddo weithdy wrth ymyl y tŷ lle mae'n cofio delweddau o eitemau ers ei blentyndod ac yn eu creu nhw, fel mae'n dweud: "Berfa, tractor a treilar, dwy felin - un dwi wedi cymryd i'm mhen oedd fel Melin Trefin. Dwi ddim yn gwybod sut oedd Melin Trefin yn edrych er bod fi wedi bod ar y safle efo Gwyneth (gwraig Gwilym).
"O'n i'n hoff iawn o farddoniaeth ac mi 'nes i felin blawd achos o'n i wedi bod yn malu blawd pan o'n i ar y fferm.
"O'n i'n malu'r blawd am fwyd i'r gwartheg."
"Gen i ddwy felin - melin wynt a melin ddŵr. Mae'r olwyn ddŵr yn troi ac mae'r felin wynt yn gweithio. Wedyn 'nes i ferfa - mae berfa wedi bod efo fi ar hyd fy oes. Dwi wedi gwneud dros 40 o rheiny ac maen nhw wedi mynd at deulu a ffrindiau. Maen nhw bobman!
"Dwi 'di gwneud wagon achos o'n i'n hoffi cowbois!
"Dwi wedi gwneud lori am mod i wedi bod yn gweithio ar loris ac oedd fy nhad yn gyrru lori flawd ar un adeg."
Barddoniaeth
Mae Gwilym hefyd yn angerddol am farddoniaeth ers yn blentyn, pan oedd yn hoff iawn o ddarllen nofelau a cherddi. Erbyn hyn mae'n cyfansoddi barddoniaeth i'w wraig, Gwyneth, gan gynnwys cerdd arbennig wrth i'r ddau ddathlu 50 mlynedd o briodas ym mis Hydref 2022.
Bwthyn uncorn
Ac mae'r ddau gariad yn ei fywyd wedi dod ynghŷd wrth i Gwilym adeiladu fwthyn uncorn o bren, wedi ei ysbrydoli gan gerdd Eifion Wyn i Gwm Pennant sy'n cynnwys y geiriau: "Hoff gennyf fy mwthyn uncorn".