Powys: Agor drysau ysgol Gymraeg sy'n 'torri tir newydd'

  • Cyhoeddwyd
Agor yr ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wynne Construction wedi pasio mlaen allweddi'r ysgol newydd

Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd - sy'n croesawu disgyblion am y tro cyntaf ddydd Mawrth - wedi'i disgrifio fel un unigryw a'r adeilad yn 'torri tir newydd'.

Ysgol Gymraeg Y Trallwng yw'r adeilad 'passivhaus' hybrid cyntaf yn y Deyrnas Unedig.

Gair Almaeneg yw 'passivhaus' sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio adeiladau sydd â'r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd ynni.

Mae'n safon sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ac er mwyn ei gyrraedd mae'n rhaid i adeiladau fodloni mesurau penodol gan gynnwys bod yn aerdyn a bod wedi'u hinswleiddio yn dda. 

Mae'n brosiect hybrid oherwydd bod neuadd ac ystafelloedd dosbarth yr ysgol mewn adeilad newydd sbon sydd wedi'i gysylltu â hen ysgol Maesydre, a gafodd ei dylunio yn y 19eg ganrif.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ystafelloedd dosbarth newydd

Mae hen ran yr adeilad wedi'i hadnewyddu ac mae bellach yn gartref i ysgol feithrin a chyfleusterau cymunedol.

Wrth iddi dderbyn allweddi'r adeilad gan y contractwyr Wynne Construction, dywedodd y pennaeth Angharad Davies: "Mae'n hollol wefreiddiol i ni fel ysgol, mae'n anghredadwy.

"Alla i ddim credu mai ni sy biau'r lle yma, mae'n anhygoel! Dechreuodd y daith yn 2017 pan ddechreuodd Ysgol Gymraeg y Trallwng, ac ers hynny mae ambell i gam wedi bod, ond mae'n werth pob aros. 

"Mae'n dangos bod yr iaith Gymraeg yn fyw yma ger y ffin, ac yn dangos bod lle i bawb gael addysg Gymraeg ac mae'n agored i bawb yma yn y Trallwng."

Penodi contractwyr

Mae'r daith i greu cartref pwrpasol iddi wedi bod yn un hir ers sefydlu Ysgol Gymraeg y Trallwng yn 2017 - hen ysgol fabanod oedd ei chartref cyn cael y safle newydd.  

Yn 2018, dyfarnodd Cadw - gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy'n gofalu am lefydd hanesyddol - statws rhestredig Gradd 2 i hen adeilad Ysgol Maesydre.

Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid ail-lunio'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr ysgol Gymraeg newydd a chynnwys yr hen adeilad ynddyn nhw.

Yn 2019, fe aeth cwmni adeiladu Dawnus i'r wal. Nhw oedd wedi cael y cytundeb gwreiddiol i adeiladu'r ysgol newydd, felly bu'n rhaid mynd drwy'r broses o benodi contractwyr newydd.

Achosodd y pandemig oedi yn y prosiect hefyd o 2020 ymlaen.

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Lindsey Phillips bod yr aros wedi bod yn hir.

Disgrifiad o’r llun,

Lindsey Phillips: "Mae'n mynd i wneud llond byd o wahaniaeth"

"'Dw i wedi bod yn rhan o'r cynllun yma ers bron i wyth mlynedd," meddai.

"Ar y pryd ro'n i'n disgwyl i'r ysgol fod yn barod o fewn dwy i dair blynedd.

"Mae wedi bod yn daith hir a throellog - 'sa ni'n methu ysgrifennu'r stori yma!" 

'Cyfuno'r hen a'r newydd'

Ond ar ôl yr holl rwystredigaeth ar hyd y daith, mae Lindsey Phillips wrth ei bod gyda'r ysgol newydd.

"Dwi'n meddwl bod o'n wefreiddiol - yr hen a'r newydd wedi'u cyfuno wrth i ni symud ymlaen, mae o mor symbolaidd, ac mae'r hen adeilad yn gorgeous.

"Mae 'na gyfleusterau cymunedol yna, fel bydd y gymuned yn gallu dod mewn i'w defnyddio nhw. 

"Mae'n torri tir newydd hefyd - yr adeilad cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyfuno'r hen a'r newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae lle i 150 o blant yn yr ysgol newydd

"Mae'n gwneud ni'n hapus, 'dan ni wedi bod yn defnyddio olew yn yr hen adeilad sy'n andros o aneffeithiol a rwan allwn ni gyfrannu at y dyfodol, nid dim ond addysg y plant ond hefyd yr amgylchedd."    Yn 2021 fe ddywedodd adroddiad i Gabinet Cyngor Powys yn 2021 fod cost y prosiect wedi cynyddu oherwydd "ail-ddylunio'r cynllun yn dilyn cwymp cwmni Dawnus Construction Ltd a rhestru gan Cadw".

Yn ôl yr adroddiad, dyrannwyd cyllideb o £6.7m yn wreiddiol, ond yn dilyn yr ail-ddylunio, cytunwyd ar gynnydd i £9.1m gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o'i Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu yn gyfartal rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Powys.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Y bwriad gwreiddiol oedd dymchwel yr hen adeilad ac adeiladu o'r newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol yn cynnwys elfennau o'r hen a'r newydd

"Ond, bu'n rhaid ail-ddylunio'n llawn er mwyn ymgorffori'r hen adeilad fel rhan o'r ysgol newydd. Dyw costau terfynol y prosiect ddim wedi'u pennu'n derfynol eto ond ni ddisgwylir i'r prosiect fod dros y gyllideb.

"Ysgol Gymraeg y Trallwng yw prif ysgol cyfrwng Cymraeg y Cyngor yng ngogledd ddwyrain Powys a'n huchelgais yw sicrhau bod yr ysgol yn llawn ymhen ychydig flynyddoedd."

'Wedi ffynnu ers 2017'

Mae 89 o blant yn Ysgol Gymraeg y Trallwng yn ei lleoliad presennol - mae lle i 150 yn yr adeilad newydd, a dywed Lindsey Phillips fod diddordeb sylweddol mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn y dref sydd ond ychydig filltiroedd o'r ffin.

"Dwi'n meddwl o ran safonau'r addysg Gymraeg, maen nhw yna'n barod, mae safon yr addysg yn ardderchog a 'dan ni wedi ffynnu ers 2017.

"Ond mae'n dangos ymrwymiad y cyngor sir at addysg Gymraeg mewn ardal sydd reit ar y ffin, mewn ardal Saesneg iawn - mae 98% o'n plant ni yn dod o gartrefi di-Gymraeg llwyr, rhai yn dod o gartrefi amlieithog.

"Mae'n mynd i wneud llond byd o wahaniaeth." 

Mae gan yr ysgol ffenestri gwydr triphlyg, waliau wedi'u hinswleiddio'n dda ac mae'n aerdyn sy'n golygu mai ychydig iawn o ynni sy'n cael ei golli o'r adeilad.

Dywedodd Ian Pilcher, uwch reolwr prosiect Cyngor Powys, fod yr ysgol newydd yn 'unigryw' yn y ffordd y mae'n cyfuno elfen y 19eg ganrif a'r adeilad newydd sbon i greu 'passivhaus' hybrid.

Ychwanegodd bod yr adeilad yn cael ei gynhesu gan ffynonellau adnewyddadwy:

"Mae gennym ni bympiau gwres ffynhonnell aer, sy'n darparu gwres cefndir yn unig," meddai.

"Mae gennym ni PV (paneli solar) ar y to, sy'n darparu trydan i'r adeilad."

Ond y ffynhonnell bwysicaf o wresogi'r ysgol, meddai Mr Pilcher, yw'r cynhesrwydd sy'n cael ei gynhyrchu gan y bobl sy'n ei ddefnyddio, sy'n cael ei adnabod yn anffurfiol fel 'kiddyWatts'.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Pilcher fod yr ysgol newydd yn 'unigryw' yn y ffordd y mae'n cyfuno elfen y 19eg ganrif a'r adeilad newydd sbon

"I gael y 'kiddyWatts', ry'n ni'n defnyddio'r gwres mae'r bobl sydd yn yr adeilad yn ei gynhyrchu, ac am ei fod wedi'i insiwleiddio mor dda dy'n ni ddim yn colli llawer o hynny.

"Felly mae'n ymwneud â chynyddu'r gwres yn yr adeilad a'i gadw. Mae gennym ni uned adfer gwres awyr mecanyddol sy'n cymryd yr aer gynnes ac yn ei symud o amgylch yr adeilad.

"Felly does gennym ni ddim ystafelloedd boeler mawr mewn ysgolion mwyach, does dim gwres canolog nwy yn yr adeilad hwn.

"Ac o ran oeri, does gennym ni ddim 'aircon' yn yr adeiladau hyn oherwydd eu bod mor aerdyn, mor effeithlon.

"Ein strategaeth awyru neu oeri yw agor y ffenestri yn y nos."

Pynciau cysylltiedig