Caerdydd: Enwi merch 15 oed fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae merch 15 oed wedi marw ar ôl iddi gael ei tharo gan gar yng Nghaerdydd.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Trelai yn ardal Caerau o'r brifddinas tua 21:30 nos Lun.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod Keely Morgan, o Gaerau, wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu Keely, sydd wedi gofyn am breifatrwydd.
Mae'r heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.