Lucy Letby: Nyrs yn gwadu achosi niwed i unrhyw fabi
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs sydd wedi'i chyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio nifer o fabanod wedi dweud wrth reithgor na wnaeth hi achosi niwed i unrhyw blentyn.
Ddydd Mawrth, saith mis ar ôl dechrau'r achos yn ei herbyn, mae Lucy Letby, 33, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron Manceinion.
Honnir iddi lofruddio pump bachgen a dwy ferch, a cheisio llofruddio pump bachgen a phum merch arall rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Mae Ms Letby, sy'n dod o Henffordd yn wreiddiol, yn gwadu'r cyhuddiadau.
Ymchwiliadau ar Facebook
Clywodd y llys fod Lucy Letby yn defnyddio Facebook i chwilio am ffrindiau, cydweithwyr, rhieni plant oedd ar yr uned fabanod newydd-anedig lle'r oedd hi'n gweithio, a rhai oedd ddim yn gysylltiedig â'r achos.
Rhwng Medi a Thachwedd 2015 roedd hi wedi gwneud dros 650 chwiliad o'r fath ar Facebook.
Wrth egluro'r ymchwiliadau wrth y bargyfreithiwr, dywedodd y diffynnydd ei bod "wastad ar fy ffôn" a'i bod yn gwneud yr ymchwiliadau "allan o ddiddordeb" ac oherwydd "chwilfrydedd naturiol".
Yn gynharach yn yr achos galwodd yr erlyniad Ms Letby yn "bresenoldeb maleisus cyson" mewn adran i fabanod newydd-anedig yn Ysbyty Iarlles Caer, lle'r oedd yn gweithio.
Mae'r ysbyty yng Nghaer hefyd yn darparu gwasanaethau ar gyfer trigolion gogledd-ddwyrain Cymru.
Mae'r BBC yn deall bod rhai o'r 17 baban wedi eu geni i deuluoedd yng Nghymru.
Honnir iddi dargedu babanod drwy wahanol ffyrdd - gan gynnwys chwistrellu aer i'w gwythiennau a'u gwenwyno gydag insiwlin.
'Ella bod hyn i gyd i lawr i fi'
Brynhawn dydd Mawrth dangoswyd nodyn A4 yn llawysgrifen Ms Letby i'r rheithgor, oedd yn cynnwys enwau rhai o'i ffrindiau, a'r geiriau: "Dwi ddim yn gwybod os mai fi laddodd nhw. Ella y gwnes i. Ella bod hyn i gyd i lawr i fi."
"Pam sgwennu rhywbeth fel yna?" holodd ei bargyfreithiwr Ben Myers.
"Am mai dyna sut roeddwn i'n teimlo ar y pryd," meddai Ms Letby.
Pan ofynnwyd iddi pam yr oedd y frawddeg wedi cael ei chroesi allan, dywedodd: "Roedd hynna'n rhywbeth y byddwn i'n ei wneud."
Mr Myers: "Sut oeddech chi'n teimlo, yn meddwl a oeddech chi wedi'i lladd nhw ai peidio?"
Ms Letby: "Ro'n i'n casáu fy hun."
Roedd y nodyn hefyd yn cynnwys y frawddeg "rwyf eisiau marw", a gofynnodd Mr Myers pam yr oedd hi wedi ysgrifennu hynny.
"Doeddwn i ddim yn gallu gweld y byddai fy mywyd byth yr un fath eto."
Wrth ei holi yn ystod y bore gofynnodd Mr Myers iddi roi amcangyfrif o nifer y babanod oedd wedi bod yn ei gofal rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016, atebodd y byddai'n "gannoedd".
"Wnaethoch chi ofalu amdanyn nhw?," gofynnodd Mr Myers.
"Do," meddai'r diffynnydd.
Pan ofynnwyd a oedd hi wedi bod eisiau achosi niwed iddynt, dywedodd "na, byddai hynny'n hollol groes i'r hyn y mae bod yn nyrs yn ei olygu".
'Doeddwn i ddim isio byw'
Clywodd Ms Letby ei bod yn cael ei beio am farwolaethau babanod mewn llythyr gan Goleg Brenhinol y Nyrsys ym mis Medi 2016.
Gofynnodd y bargyfreithiwr sut yr oedd hyn wedi gwneud iddi deimlo.
"Roedd o'n ffiaidd. Fedrwn i ddim credu'r peth. Roedd o'n ddinistriol. Dwi ddim yn meddwl y gallwch chi gael eich cyhuddo o rhywbeth gwaeth na hynna."
Dioddefodd broblemau iechyd meddwl yn dilyn hynny, meddai.
"Roedd adegau pan doeddwn i ddim isio byw. Meddyliais am ladd fy hun," meddai.
Dywedodd nad oedd hi wedi gwneud unrhyw beth drwg.
Mr Myers: "Pam oeddech chi'n meddwl am ladd eich hun ta?"
Ms Letby: "Oherwydd yr hyn oedd yn cael ei awgrymu."
Pan ofynnwyd iddi egluro nodyn yr oedd yr heddlu wedi'i ddarganfod yn ei chartref oedd yn dweud: "Dwi'n ddrwg, fi wnaeth hyn", dywedodd ei bod yn teimlo ar y pryd ei bod hi "wedi bod yn anghymwys rhywsut ac wedi gwneud rhywbeth anghywir oedd wedi effeithio ar y babanod hynny".
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022