PDA: Y system addysg wedi 'ffaelu' fy mab awtistig

  • Cyhoeddwyd
Y Parchedig Angharad Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parchedig Angharad Griffith yn teimlo nad yw'r system addysg gynradd "yn 'neud digon ar gyfer plant PDA"

Mae mam o Sir Gaerfyrddin yn dweud bod y system addysg gynradd wedi "ffaelu" ei mab sydd gyda math o awtistiaeth.

Mae'r Parchedig Angharad Griffith yn awyddus i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r cyflwr PDA (Syndrom Osgoi Galw Patholegol).

Dywed fod y cyflwr - sy'n cael ei ystyried yn rhan o'r sbectrwm awtistiaeth - wedi "caethiwo" ei mab 11 mlwydd oed, Llewelyn.

Mae plant sydd â PDA, meddai, "yn gweld popeth fel demand, neu orchymyn, hyd yn oed dweud y gair 'Helo'".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymgymryd â rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth" gwerth £12m.

'Nath y system ffaelu'

Yn ôl y Gymdeithas PDA, mae'n ddyddiau cynnar iawn wrth geisio ymchwilio i'r cyflwr a'i ddeall yn llawn.

Ond maen nhw'n amcangyfrif y gallai un ymhob pump o bobl sydd ag awtistiaeth fod ar y proffil PDA.

Mae Llew wedi methu mynd i'r ysgol yn gyson ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae Angharad yn teimlo mai methiant o fewn y system addysg sydd yn rhannol gyfrifol am hynny.

"Nath e ffaelu, nath y system ffaelu Llew ar ddiwedd ei gyfnod yn yr ysgol gynradd ac felly mae hwnna wedi cael knock-on effect ar bopeth arall," meddai.

"Dwi'm yn meddwl bod y system gynradd fel mae ar hyn o bryd yn 'neud digon ar gyfer plant PDA, ac mae'n rhaid i chi gael y system gynradd yn iawn neu maen nhw'n ffaelu transition-io i'r uwchradd."

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Llew wedi bod yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd ers blynyddoedd

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, Y Cynghorydd Glynog Davies: "Mae yna weithdrefnau cadarn yn eu lle o ran cynhwysiant ac yr ydym, fel cyngor, yn gwneud ein gorau i gwrdd ag anghenion pob dysgwr.

"Rydw i a'r Cyfarwyddwr Addysg yn trefnu i gwrdd gyda'r Parchedig Angharad Griffith a nifer fach o rieni eraill i wrando ar yr hyn sy'n eu poeni."

Ond pryder Angharad yw nad yw'r gweithdrefnau hynny ar bob achlysur yn cael eu gwireddu.

Dywedodd: "Falle bod y sir wedi dodi pethau mewn lle, ydyn, ond y trueni yw, maen nhw'n dal i fethu'r plentyn PDA achos dy' nhw ddim wedi cymryd yr hyfforddiant on board fel petai ac mae pethau'n cael eu dweud sydd yn amlygu'r ffaith bo' nhw jyst ddim yn deall plant PDA."

'Diffyg ymwybyddiaeth'

Mae yna amrywiaeth o nodweddion penodol yn cael eu rhannu gan bobl PDA, yn ôl y gymdeithas sy'n eu cynrychioli yn y Deyrnas Unedig.

Maen nhw'n:

  • teimlo'r angen i reoli sefyllfaoedd, a hynny yn aml yn deillio o or-bryder;

  • cael eu gyrru i osgoi disgwyliadau neu orchmynion dyddiol;

  • rhannu nodweddion awtistig eraill fel ADHD a dyslecsia;

  • dueddol o beidio ymateb i'r ffyrdd confensiynol o ddysgu, cefnogi a bod yn rhiant.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y Gymdeithas PDA mae angen mwy o ymwybyddiaeth fel bod plant yn cael y gefnogaeth gywir

Y gofid yn ôl y Gymdeithas PDA yw bod y diffyg ymwybyddiaeth yn golygu nad yw plant ar bob achlysur yn derbyn y gefnogaeth gywir

Dywedodd llefarydd: "Mae'r Gymdeithas PDA yn cefnogi teuluoedd ar draws Cymru sy'n profi'r heriau yma.

"Mae'n credu bod angen mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i anghenion plant PDA o fewn y system addysg er mwyn mynd i'r afael â hynny."

'Fy atal rhag y pethau dwi am wneud'

Er mwyn ceisio esbonio'r ffordd y mae ei ymennydd yn gweithio, a chan ddangos pa mor alluog y mae ei feddwl yn greadigol ac yn weledol, mae Llew yn hoff o greu gweithiau celf.

Mae un yn benodol o dan y teitl 'Môr a Mynydd' yn dangos llosgfynydd a tswnami, ac mae'n dweud bod hyn yn disgrifio'i feddwl yn berffaith.

"Mae fy ymennydd fel car rasio," dywedodd. "Lambourgini heb frêcs."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llew yn mynegi ei deimladau trwy ei gelf

Mae'n aml yn derbyn medalau mewn cystadlaethau'r Urdd am ei waith celf, sy'n crisialu'r heriau sy'n wynebu'r bachgen ifanc.

Dywed ar un o'i ddarnau celf fod "gor bryder PDA yn rheoli bywyd fi" a "fi yn gaeth i PDA".

Er bod gan Llew berthynas dda gyda'r sefydliad uwchradd sydd nawr yn cyd-weithio â'r teulu wrth ddarparu cefnogaeth ac addysg, mae Angharad yn teimlo bod angen gwella'r gofal cynradd ar gyfer dysgwyr y dyfodol.

"Mae'n sefyllfa drist, achos ni moyn y gorau, a dwi'n gobeithio bod y system addysg moyn y gorau i'n plant ni, ond dyw e jyst ddim 'di digwydd yn yr achos yma. Mae e 'di ffaelu ac mae e 'di gadael ei ôl," meddai.

"Ac mae'r plentyn 'ma nawr yn gaeth i'w feddwl ac yn gaeth i'w gynefin. A chynefin bach bach yw hwnnw sef y cartref."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ymgymryd â rhaglen gwella gwasanaethau niwrowahaniaeth, y neilltuwyd £12 miliwn iddi, ac rydym wedi sefydlu grŵp cynghori clinigol niwrowahaniaeth, lle gall aelodau roi cyngor arbenigol ar adnabod PDA (osgoi galw patholegol) yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig