Diagnosis awtistiaeth chwe blynedd hwyrach i ferched
- Cyhoeddwyd
Mae angen buddsoddi mewn gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru fel bod menywod awtistig yn cael diagnosis yn gyflymach, yn ôl elusennau.
Dywedodd y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol wrth Newyddion S4C fod menywod yn aml yn cael diagnosis anghywir, sy'n gallu arwain at anawsterau iechyd meddwl sy'n cydfodoli ag awtistiaeth, fel gorbryder, anhwylderau bwyta neu iselder.
Yn ôl ymchwil gan academydd ym Mhrifysgol Abertawe, ar gyfartaledd mae merched sydd ag awtistiaeth yn gorfod aros chwe blynedd yn hirach i gael diagnosis o'i gymharu â bechgyn awtistig.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cynnal adolygiad o'r galw am bob gwasanaeth niwroddatblygiadol i bob oed i wella'r gwasanaethau.
Diagnosis yn 'esbonio popeth'
Cafodd Rhiannon Lloyd-Williams o Langynfelyn, Ceredigion, ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd hi'n 35 oed.
Mae'n dweud nad oedd y broses o ofyn am ddiagnosis yn hawdd.
"Edrych 'nôl nawr rydw i'n gallu gweld bod lot o amserau o'n i wedi ymateb i bethau fel rhywun awtistig ond doedd gen i ddim syniad bo fi'n awtistig," meddai Rhiannon, sydd bellach yn 42.
"Doedd e ddim yn rhwydd cael y diagnosis, a hefyd doedd neb proffesiynol byth yn fy mywyd wedi dweud: 'Falle rwyt ti yn awtistig'.
"Roedd rhaid i fi ddod o hyd i'r gwybodaeth, roedd rhaid i fi ymchwilio, roedd rhaid i fi fynd trwy'r stages i gael y diagnosis. Roedd yn cymryd lot o egni a amser i gael y diagnosis.
"A roedd y teimladau ar ôl 'ny, o'n i'n hapus iawn, roedd gen i esboniad, roedd hyn yn esbonio popeth i fi."
"Mae 'na broblem fawr yn cael diagnosis fel menyw, a ma' hynny'n broblem dros y byd i gyd.
"Mae e just dal yn cael ei weld yn rhywbeth sy'n digwydd i fechgyn a dynion. Yn Saesneg mae 'na ddisgrifiad o lost generation of autistic women, a ma' lot o amserau yn fy mywyd dwi'n gweld ble roedd angen cymorth a doedd e ddim yna."
Ar ôl derbyn ei diagnosis, dechreuodd Rhiannon ysgrifennu ei theimladau a'i phrofiadau ar-lein, sy'n ei helpu i brosesu ei theimladau.
"Mae'n helpu fi i mynd 'nôl a meddwl am fy mywyd, a mae'n helpu fi delio gyda'r camddealltwriaeth rydw i wedi roi ato fy hunan.
"Nes i rannu'r linc ar trydar a roedd cymdeithas awtistig mas 'na, a croesawodd nhw fi, roedd y croeso... sai'n gallu esbonio pa mor bwysig i fi oedd e.
"Rwyt ti'n teimlo'n unig iawn yn tyfu lan yn awtistig o gwmpas pobl sydd ddim, a mae'n teimlad o bod yn rhan o'r cymuned 'ma yn mor bwysig."
Mae Steffan Davies, academydd o Brifysgol Abertawe, wedi cynnal ymchwil eang yn canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng merched a bechgyn awtistig.
Mae ei ymchwil wedi darganfod fod 75% o fechgyn awtistig yn cael diagnosis cyn 10 mlwydd oed, ond cafodd 50% o ferched awtistig ddiagnosis yn 10 oed neu'n hŷn.
Ar gyfartaledd, mae bechgyn awtistig yn cael diagnosis rhwng 4-6 oed, a merched awtistig yn cael diagnosis rhwng 10-12 oed, yn ôl yr ymchwil.
"Mae nifer yn gorfod aros am amser hir i gael diagnosis yng Nghymru, ond mae'r oedi yn gallu bod yn niweidiol iawn i ferched oherwydd maen nhw'n bellach ymlaen yn eu datblygiad.
"Roedd nifer fawr o ferched yn yr astudiaeth wedi cael diagnosis anghywir, fel diagnosis o orbryder, neu anhwylderau bwyta. Ond roedd y prif ddiagnosis yn aml yn cael ei golli, sef diagnosis awtistiaeth."
Ymchwil wedi 'diystyru merched'
Yn ôl Rhiannon Packer, uwch-ddarlithydd mewn Anghenion Dysgu ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae nifer o resymau gallai'r cyflwr gael ei golli ymhlith menywod.
"Yn bennaf mae ein cymdeithas yn meddwl taw awtistiaeth yw rhywbeth sy'n effeithio bechgyn yn fwy na merched.
"Hefyd mae'r ffaith bod menywod falle ddim yn dangos yr ymddygiad mwyaf amlwg ry' ni'n gweld er mwyn gallu gwneud diagnosis."
Ar fechgyn yn unig roedd astudiaethau cynnar o'r cyflwr yn canolbwyntio, meddai, ac mae asesiadau awtistiaeth yn seiliedig ar yr ymchwil yma - gan "ddiystyru merched".
Mae elusennau'n dweud bod angen buddsoddi i hyfforddi gweithwyr yn y sector i adnabod y cyflwr.
"Beth ry' ni'n clywed yw fod yna oedi o ran diagnosis, fod 'na ddiagnosis anghywir", meddai Julie Richards o elusen Triniaeth Deg i Ferched Cymru.
"A beth 'ni'n clywed nawr sy'n poeni ni'n arw iawn yn ein mudiad, yw bod merched yn troi at wasanaethau iechyd preifat i gael diagnosis amserol, ond diagnosis cywir hefyd.
"Rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru i gyd-greu ac i cyd-weithio gyda menywod awtistig, i sicrhau fod yna ddarpariaeth sy'n gydraddol a chywir, sy'n benodol i ferched awtistig yng Nghymru."
Ymateb y llywodraeth
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau sydd ar wasanaethau niwroddatblygiadol, gan gynnwys adnabod cyflyrau mewn genethod a menywod.
"Rydym yn cynnal adolygiad o'r galw am bob gwasanaeth niwroddatblygiadol i bob oed, a chapasiti'r gwasanaethau hynny.
"Bydd y canlyniadau'n cynnwys opsiynau ar gyfer datblygu a gwella'r gwasanaethau hyn, gan gynnwys y rhai ar gyfer awtistiaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019