Pum munud gyda Bardd y Mis: Elen Ifan

  • Cyhoeddwyd
Elen IfanFfynhonnell y llun, Elen Ifan
Disgrifiad o’r llun,

Elen Ifan

Mae'n fis Mai ac Elen Ifan yw Bardd y Mis, Radio Cymru. Dyma gyfle i ddod i'w hadnabod.

Fel merch o Fro Morgannwg yn wreiddiol, disgrifia sut fagwraeth a gefaist, dy ardal a'i phobl. Wnaeth hynny dy siapio di?

Ro'n i'n un o'r disgyblion prin oedd yn dod o gartref cyfrwng Cymraeg yn fy ysgolion cynradd ac uwchradd yn y Barri ac mi wnaeth hynny i mi sylweddoli pa mor werthfawr yw'r iaith a'r cyfleoedd sydd i bobl ei dysgu.

Ro'n i'n treulio lot fawr o amser gyda fy mam-gu a nhad-cu ar ochr fy Mam yn ystod fy mhlentyndod, oedd yn byw yng Nghwm Rhymni, ac felly dwi wedi teimlo fel fy mod yn perthyn i sawl lle mewn ffordd.

Mae Caerdydd yn rhan fawr o fy mlynyddoedd ffurfiannol hefyd, a dwi'n falch fy mod i wedi llwyddo i ddal ymlaen i fy acen ddeheuol er imi dreulio deng mlynedd yn byw yng Ngwynedd (er bod 'na dinc gogleddol gen i ambell waith, os ydw i'n siarad gyda gogs).

Rwyt ti'n gerddor, yn chwarae'r soddgrwth i Rogue Jones, ac roedd dy ddoethuriaeth yn mynd i'r afael â gwaith y bardd a'r llenor T. Gwynn Jones yng nghyd-destun cerddoriaeth. Ydy cerddoriaeth yn dylanwadu ar dy ysgrifennu mewn unrhyw ffordd?

Ddim yn benodol - mae ddiddordeb ymchwil yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a cherddoriaeth, ac yn wir llenyddiaeth a gwahanol gyfryngau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.

Dwi wedi ysgrifennu gan ymateb i gelf weledol yn y gorffennol, felly pwy a ŵyr - efallai mai ymateb i gerddoriaeth fydd nesaf!

Ffynhonnell y llun, Rogue Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rogue Jones

Ar hyn o bryd rwyt yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Llynedd cyhoeddwyd bod cwymp "sylweddol" wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg mewn prifysgolion, gyda'r ffigwr wedi bron â haneru mewn degawd.

Fel un sydd wedi astudio'r Gymraeg mewn addysg uwch a sydd bellach yn ddarlithydd y Gymraeg, beth fyddai dy gyngor di i rywun sy'n pendroni dros fynd i astudio'r Gymraeg yn y brifysgol?

Mae'r Gymraeg fel pwnc academaidd mor amrywiol - mae'n cwmpasu astudiaethau llenyddol, ieithyddol, sosio-ieithyddol, galwadigaethol, a chreadigol. Mae graddedigion yn y Gymraeg yn mynd ymlaen i weithio mewn llawer o wahanol feysydd ac mae'n bwnc cyffrous a hynod ddiddorol i'w hastudio. Mae Cymru a'r Gymraeg wedi bod yn cael platfform byd-eang yn ddiweddar, ac mae cyfle nawr i fyfyrwyr a graddedigion y Gymraeg chwarae eu rhan yn y cyfnod cyffrous hwn i Gymru a'r Gymraeg.

Cyhoeddaist dy bamffled gyntaf o farddoniaeth, Ystlum, y llynedd (2022) gyda Chyhoeddiadau'r Stamp a rwyt wedi bod yn cyhoeddi dy farddoniaeth ar y cyfrif instagram @ystlum ers 2019. Oes arwyddocâd arbennig tu ôl i ddefnyddio'r enw Ystlum ac oedd cerddi'r pamffled yn ymdrin â themâu penodol?

Wel, dwi'n hoff iawn o ystlumod! Dwi'n meddwl bo nhw'n anifeiliaid mor cwl. Ond dwi'n credu bod ystlum, sy'n defnyddio sonar i greu darlun o'r byd sydd o'u cwmpas, ychydig bach fel bardd - sy'n defnyddio geiriau (sy'n seiniau, yn eu hanfod) er mwyn crisialu teimlad, moment neu ddarlun.

Ffynhonnell y llun, Elen Ifan
Disgrifiad o’r llun,

Elen Ifan

Mae'r pamffled yn cynnwys cerddi sy'n ymwneud â'r cyfnod clo, cyfnod o dipyn o newid yn fy mywyd personol - mae 'na synnwyr o ddatblygiad personol ac emosiynol drwy'r pamffled - sy'n dilyn cylch blwyddyn o fis Medi i fis Medi.

Petaet yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod - byw neu hanesyddol - pwy fyddai o neu hi, a pham?

Byddai'n braf cael mynediad at bapurau (ac ymennydd!) T. Gwynn Jones am ddiwrnod i weld faint o'm PhD sy'n anghywir...!

Pa ddarn o farddoniaeth fyddet ti wedi hoffi ei ysgrifennu, a pham?

The Orange gan Wendy Cope. Life affirming yw'r gair amdani - mae hi mor syml, ond yn dweud gymaint.

Beth sydd ar y gweill gen ti ar hyn o bryd?

Dwi'n edrych mlaen at fod yn fardd y mis ar Radio Cymru ym mis Mai, ac wrthi'n sgwennu rhyw bwt yma a thraw o hyd. Dwi hefyd yn prysur yn ymarfer gyda Rogue Jones at ambell i gig fyw cyn hir, ac ymarferion Cerddorfa Symffoni'r Rhondda erbyn ein cyngerdd haf.

Hefyd o ddiddordeb: