Teyrngedau i ferch 15 oed fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Keely MorganFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Keely Morgan ei disgrifio fel merch "synhwyrol a charedig" gan ei theulu

Roedd gan ferch 15 oed, a fu farw ar ôl iddi gael ei tharo gan gar, "gymaint o gynlluniau" ar gyfer y dyfodol, medd ei theulu.

Bu farw Keely Morgan, o Gaerau, mewn gwrthdrawiad ar Heol Trelai, Caerdydd am oddeutu 21:30 nos Lun.

Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Dywedodd rhieni Keely bod ganddi "wên hardd" a fyddai'n goleuo pob ystafell ac mae ei hathrawon wedi'i disgrifio fel "disgybl eithriadol".

Mewn datganiad dywedodd mam Keely, Sian Morgan a'i llystad Liam Coulthard: "Fel teulu rydym wedi ein dinistrio wedi i ni golli Keely yn sydyn.

"Mae ein calonnau wedi'u torri, a wnaethon ni fyth dychmygu y byddai unrhyw beth fel hyn yn digwydd i ni.

"Roedd gan Keely wên mor hardd a fyddai'n goleuo pob ystafell o hyd.

"Roedd hi'n synhwyrol, caredig a doedd gan yr un person air gwael i ddweud amdani.

"Mewn cyfnod mor fyr yn y byd yma, roedd wedi cyffwrdd â chymaint o bobl ac roedd ganddi gymaint o gynlluniau na sydd modd eu gwireddu bellach.

"Rydym wedi derbyn cymaint o gariad a chefnogaeth gan ein cymuned ac er na allwn ateb pob un, rydym eisiau diolch i bawb.

"Yn olaf, i unrhyw un oedd yno ac a wnaeth geisio helpu Keely ac i bawb yn y gwasanaethau brys a wnaeth wneud eu gorau, rydym fel teulu yn ddiolchgar am eich ymdrechion.

"Gorffwys mewn hedd Keely. Fyddi di byth yn cael dy anghofio.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Trelai yn ardal Caerau, Caerdydd

Dywedodd Martin Hulland, Pennaeth Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, fod "galar anferthol" o fewn cymuned yr ysgol yn dilyn marwolaeth Keely.

"Roedd Keely yn ddisgybl eithriadol a oedd yn caru ysgol. Roedd hi'n ffrind da i lawer o ddisgyblion ac roedd hi'n hoff iawn o ddrama fel pwnc," dywedodd.

"Mi fyddwn yn gweld ei heisiau'n fawr iawn."

Mae teulu Keely yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol tra bod Heddlu De Cymru yn parhau â'u hymchwiliad.

Pynciau cysylltiedig